Abertawe 1-0 Norwich
- Published
image copyrightGetty Images
Mae CPD Dinas Abertawe wedi codi i fod naw pwynt yn glir o'r safleoedd gwaelod yn Uwch Gynghrair Lloeg, wrth i Norwich lithro yn ddyfnach.
Roedd gorffeniad taclus gan Gylfi Sigurdsson i gornel isaf rhwyd Norwich yn gynnar yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Elyrch.
Fe ddaeth Nathan Redmond yn agos at unioni'r sgôr yn hwyr yn yr ail hanner, ond fe lwyddodd Abertawe i ddal eu gafael.
Dyma ail fuddugoliaeth Abertawe o'r bron, wedi iddynt drechu Arsenal yn ystod yr wythnos.
Tra bod yr Elyrch yn dringo'r gynghrair, mae'r Canaries yn parhau yn y safleoedd cwymp, a hynny heb fuddugoliaeth mewn 10 gêm ym mhob cystadleuaeth.