Ni all arian cymorth yr UE ddatrys problemau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd ymgyrch Llafur i aros yn yr UE wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn "annheg" i feddwl y byddai arian cymorth economaidd Ewropeaidd yn datrys y problemau rhannau tlotaf y wlad.
Dywedodd Alan Johnson bod angen i Gymru barhau i weithio tuag at ei dyfodol ei hun.
Mae'r UE wedi rhoi £1.8 biliwn i Gymru rhwng 2014 a 2020, i wario ar gynlluniau i wella tŵf economaidd.
Ond mae rhai ymgyrchwyr dros adael yr undeb, yn dweud y gallai rhywfaint o arian gael ei arbed drwy beidio â thalu ffioedd aelodaeth o'r UE, ac felly i gael ei wario ar yr ardaloedd tlawd.
Rhwng 2000 a 2006, fe dderbyniodd Cymru mwy na £1.5bn o arian Ewropeaidd.
Yn yr ail rownd o ariannu, rhwng 2007 a 2013, fe dderbyniodd rhaglenni ar gyfer gorllewin Cymru a'r cymoedd - sy'n cwmpasu 15 ardal awdurdod lleol - fuddsoddiadau o £1.8bn mewn cronfeydd.
Pan gafodd y rownd gyntaf o gyllid ei chyhoeddi yn 2000, dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan: "Bellach mae gennym gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i drawsnewid ein heconomi ac i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn y gorllewin ar y cymoedd."
Ond mae beirniadaeth wedi bod o'r ffordd y mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio, wrth i ardaloedd oedd fod i elwa, barhau ymysg y tlotaf yn yr UE.
Wrth ymweld â phrosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, a ariannwyd yn rhannol gan yr UE, dywedodd Mr Johnson nad oedd yn realistig meddwl y dylai arian yr UE greu "gwlad o laeth a mêl."
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Nid yw Ewrop yn mynd i ddatrys ein holl broblemau. Mae angen i ni weithio tuag at ein tynged ein hunain, boed hynny yn San Steffan neu yng Nghaerdydd.
"Ie, uchelgais yr undeb ydi gweld pob rhan o Ewrop yn cyrraedd yr un lefel o ffyniant, ac mi ydych chi wedi gweld bod yr arian yn dod yma i chi yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Grassroots, ymgyrch drawsbleidiol i adael yr UE, y byddai'r arian a arbedir ar ffioedd aelodaeth "yn cael ei wario ar ysgolion ac ysbytai yng Nghymru ac yn y rhannau tlotaf ein cymunedau eu hunain".
"Trethdalwyr yng Nghymru y dylai wario arian Cymru, ni ddylid ei roi gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd," meddai.