Llofruddiaeth Trelái: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Mr Simms ei ddarganfod ar Heol Glyndŵr
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i bump ar stryd yng Nghaerdydd.
Mae Stephen Pike, 58 oed, wedi ei gyhuddo o drywanu Clint Simms, 39 oed, i farwolaeth yn ardal Trelái o'r ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i Mr Simms gael ei ddarganfod gydag anafiadau ar 3 Mawrth.
Fe dderbyniodd driniaeth gan barafeddygon ond fe fu farw'n ddiweddarach.
Ymddangosodd Mr Pike, o Drelái, yn Llys Ynadon Caerdydd i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth a bod a chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad byr, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.