Cynnydd yn nifer y teithwyr o faes awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi bod 1.2m o deithwyr wedi defnyddio'r maes awyr mewn 12 mis, wrth i ffigyrau teithwyr gynyddu o 68% o gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol.
Defnyddiodd 75,055 o deithwyr y maes awyr, sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, yn ystod y mis diwethaf.
Daeth dros 36,000 o gefnogwyr rygbi o Ffrainc ag Iwerddon drwy ddrysau'r safle ym mis Hydref, er mwyn dilyn eu timau ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd.
Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Debra Barber, fod 2015 wedi bod yn "drobwynt" i'r cwmni.
Nid yw'r maes awyr wedi gweld 1.2m o deithwyr mewn cyfnod o 12 mis ers 2011.
Yr hediadau sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ydi Dulyn, Caeredin, Paris a Faro.
Dywedodd Ms Barber: "Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod rydym yn hyderus y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant yma."
Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr am £52m ym mis Mawrth 2013 ymysg pryderon am fuddsoddiad gan berchennog y safle ar y pryd.