Ymosodiad Caernarfon: Achos yn cychwyn
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed honiadau fod dyn wedi sathru dro ar ôl tro ar ei wraig tra roedd hi'n hebrwng plant i'r ysgol, cyn iddo ddweud wrth ferch ei wraig ei fod wedi lladd ei mam funudau'n ddiweddarach.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae Sylvan Maurice Parry, 46 oed, o Gaernarfon, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ei wraig Fiona Thomas Parry yn ystod yr ymosodiad yn y dref ar 3 Medi y llynedd.
Clywodd y llys gan Sion ap Mihangel, bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, fod Mrs Parry wedi dioddef anafiadau difrifol oedd wedi newid ei bywyd, er nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r hyn ddigwyddodd iddi y diwrnod hwnnw.
Dywedodd fod yr erlyniad yn honi fod Mr Parry wedi sathru ar ei wraig saith neu wyth o weithiau a'i chicio hefyd, gan ddod â'r ymosodiad i ben pan waeddodd swyddogion o orsaf dân gyfagos arno.
Fe honnir bod y diffynnydd wedi dweud wrth ferch ei wraig, Sarah Parry, 22 oed, ei fod wedi ei lladd. Roedd hi wedi clywed bod rhywbeth wedi digwydd i'w mam ac fe aeth i ymchwilio.
Wrth iddi gerdded heibio tŷ ei nain bum munud wedi'r digwyddiad, dywed yr erlyniad ei bod yn gallu clywed ei llystad yn gweiddi. Yn ôl yr erlyniad fe waeddodd Mr Parry: "Quick. Well i chdi nol y kids. Dwi wedi lladd dy fam".
Mae'r erlyniad yn honi fod Mr Parry wedi dweud hyn mewn llais pwyllog.
Rhedodd Sarah Parry tuag at y llwybr lle roedd yr ymosodiad wedi digwydd, gan gyrraedd yr un pryd â'r ambiwlans.
Dywedodd llygaid dystion bod Fiona Thomas Parry yn gorwedd ar ei chefn gyda'i wyneb wedi chwyddo cymaint fel nad oedd modd ei hadnabod.
Mae Sylvan Parry, yn derbyn ei fod yn gyfrifol am achosi anafiadau ei wraig, ond mae'n gwadu iddo geisio ei llofruddio.