Gwrthdrawiad yn y Bala: Dynes wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 rhwng Glanrafon a'r Bala fis diwethaf wedi marw.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad am ychydig cyn 16:30 ar ddydd Iau 25 Chwefror rhwng cerbydau Mercedes, Renault Modus, a Honda Civic.
Bu farw'r ddynes, oedd yn 84 oed ac yn teithio yn sedd flaen y Renault, mewn ysbyty yn Stoke nos Sul.
Cafodd dyn 32 oed ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod eu hymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Sarjant Gwyndaf Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Yn drist iawn mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel gwrthdrawiad angheuol ac rwy'n apelio ar i unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad, neu'r cerbydau dan sylw'n cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu gyda ni.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r ddynes ac maen nhw nawr yn derbyn cymorth gan swyddogion arbennig."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod U027570. Nid yw'r heddlu'n gallu rhyddhau enw'r ddynes fu farw ar hyn o bryd.