Fideo yn 'amharchus' o gantores Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae cantores o Gricieth, sydd a'i bryd ar fod yn un o sêr Bollywood, wedi beirniadu gwefan YouTube am beidio dileu fideo sy'n gwneud sylwadau negyddol amdani.
Yn ôl Nesdi Jones sydd wedi cyrraedd y brig yn y siartiau Asiaidd ym Mhrydain, mae'r fideo gan rywun anhysbys yn "amharchus".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i YouTube am ymateb.
Yn y fideo mae 'na berson yn canu yn Punjabi ac enw'r fideo yw 'Tribute to Nesdi Jones'. Mae'r geiriau Saesneg o dan y fideo ac yn gwneud sylwadau rhywiol amdani.
Mae Nesdi Jones hefyd yn canu yn Punjabi.
"Mae o yn warthus bod rhai pobl yn meddwl bod o yn iawn i degradio merched fel bod nhw yn second class citizens," meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.
Ysgogi eraill
Mae'n dweud ei bod hi'n derbyn wrth iddi ddod yn fwy adnabyddus y bydd rhai yn gwneud sylwadau negyddol amdani, ond bod hyn yn gam yn rhy bell.
"Mae YouTube wedi anwybyddu fi... Felly dw i jest wedi mynd ar social media oherwydd mae o yn ffordd o fwlio a dw i yn ambassador i elusen i stopio bwlio dros y wlad.
"O'n i yn meddwl os dw i'n dechra dweud wrth bobl mae hyn wedi ypsetio fi a dw i'n trio gwneud rwbath amdana fo, ella fydd rhywun arall sydd yn cael hassle ar yr internet, ella fyddan nhw yn siarad i fyny hefyd."
Mae gan YouTube ganllawiau ar ei gwefan ar gyfer rhai sydd yn dioddef bwlio ar y wê neu yn cael eu haflonyddu.
Mae'r canllawiau yn nodi os y bydd yr aflonyddu yn troi yn ymosodiad maleisus bod modd cysylltu gyda YouTube ac y bydd y deunydd yn cael ei dynnu i lawr.
Maen nhw'n dweud bod aflonyddu yn cynnwys:
- fideo, sylwadau a negeseuon dilornus
- datgelu gwybodaeth bersonol unigolyn
- rhoi rhywbeth ar y wê er mwyn sarhau rhywun
- deunydd rhywiol nad oes angen
Mae Nesdi Jones yn dweud ei bod yn ystyried mynd i gyfraith.
Ei gobaith yw y bydd eu dilynwyr ar y gwefannau cymdeithasol yn ei chefnogi a hefyd yn cwyno ynglŷn â'r fideo.
"Dw i ddim isio bod yn coward. Dw i isio profi bod fi yn gryfach a gobeithio y bydd rwbath yn dod allan o hyn a gobeithio ceith o ei gosbi."