Achos ymosodiad rhyw: Rhyddhau rheithgor
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw ar fyfyrwraig yng Nghaerdydd wedi ei ryddhau ar ôl methu â chytuno ar ddyfarniad.
Cafodd Khalid Alahmadi, 23 a hefyd yn fyfyriwr, ei gyhuddo o ymosod ar y ddynes 19 oed mewn parc ar 24 Medi 2015.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd y rheithgor ei ryddhau ddydd Llun, ac mae'r achos wedi ei ohirio tan 15 Mawrth.
Cafodd Mr Alahamdi ei ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.