Links Air: Teithwyr heb gael arian yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae cwsmeriaid dalodd am docynnau i hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd efo cwmni Links Air yn dal i ddisgwyl am eu harian yn ôl, er i'r cwmni roi'r gorau i gynnal y gwasanaeth ddiwedd Ionawr.
Yn siarad gyda rhaglen y Post Cyntaf, dywedodd un cwsmer dalodd £250 am bum tocyn nad oedd y cwmni yn ateb y ffôn nac e-byst.
Mae Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, yn dweud bod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol.
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gyda Links Air, ond nid yw'r cwmni wedi ymateb.
'Annerbyniol'
Ym mis Hydref y llynedd, collodd Links Air ei thrwydded hedfan ac roedd rhaid cyflogi cwmni arall i gynnal y gwasanaeth rhwng Ynys Mon a Chaerdydd ar eu rhan.
Ddiwedd mis Ionawr, penderfynodd Links Air roi'r gorau i gynnal y gwasanaeth heb rybudd, er bod ganddyn nhw gytundeb gyda'r llywodraeth.
Roedd nifer o bobl wedi talu am docynnau ymlaen llaw, ond y gred yw bod llawer o deithwyr yn dal i aros am gael eu harian yn ôl.
Roedd Gareth Parry wedi talu £250 am bum tocyn, ond nid yw wedi derbyn yr arian yn ôl.
Dywedodd: "'Nes i siarad efo'r cwmni, nathon nhw ddeud yn union faint oedd arnyn nhw idda fi a deud fysa cheque yn y post.
"Mae pythefnos, tair wythnos wedi mynd heibio, dal heb glywed dim byd yn ôl gan y cwmni wedyn."
Ychwanegodd bod y ffordd y mae'r cwmni wedi delio gyda'r mater yn "siomedig".
'Gweithio i ddatrys y broblem'
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gyda Links Air ond nid yw'r cwmni wedi ymateb.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hwn yn fater i Links Air ei ddatrys, ond ychwanegodd llefarydd bod y sefyllfa yn "gwbl annerbyniol ac rydyn ni'n gweithio gyda'n Awdurdod Hedfan Sifil a Links Air i ddatrys y broblem i deithwyr".
Dywedodd y llefarydd hefyd bod y Gweinidog Edwina Hart yn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd os na fydd y sefylfa yn gwella.
Straeon perthnasol
- 22 Ionawr 2016