Gwahardd chwaraewr rygbi am fethu prawf cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
rygbi

Mae chwaraewr rygbi o dde Cymru wedi ei wahardd o chwaraeon o bob math ar ôl methu prawf am gyffuriau.

Roedd prawf wedi dangos bod steroid anabolig yng nghorff Adam Buttifant, 19 oed, ym mis Mehefin y llynedd.

Mae Buttifant, sy'n chwarae i glwb Bargoed, wedi ei wahardd rhag unrhyw chwaraeon am ddwy flynedd, tan Mehefin 2017.

Ym mis Tachwedd, fe wnaeth ymchwiliad gan BBC Cymru ddatgelu bod traean athletwyr Prydain sydd wedi'u gwahardd oherwydd cyffuriau yn chwaraewyr rygbi o Gymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf UK Anti-Doping mae 34% o'r bobl ym myd y campau sydd wedi'u gwahardd yn chwaraewyr rygbi o Gymru.

Dywedodd Prif Weithredwr UK Anti-Doping, Nicole Sapstead: "Mae Adam Buttifant yn chwaraewr rygbi ifanc oedd â gyrfa addawol o'i flaen.

"Mae ei fethiant i wneud ymchwil na chael cyngor am y cynhyrchion yr oedd yn eu cymryd wedi niweidio ei yrfa chwaraeon a'i enw da."