Bywyd o dan bont / Under the bridge
- Cyhoeddwyd
Yn 2014 aeth y ffotograffydd Andrew McNeill o Gaerdydd allan i'r brifddinas i bortreadu bywyd y bobl sy'n byw ar y stryd yno.
Mae arddangosfa o'i luniau, 'Under the Bridge', yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, tan 9 Ebrill. Dyma rai lluniau o'r casgliad, gyda geiriau Andrew McNeill yn egluro cefndir y gwaith.
In 2014 photographer Andrew McNeill slept on the streets of his native Cardiff to capture the lives of the homeless community sleeping rough in the capital.
His exhibition, 'Under the Bridge', is at Aberystwyth Arts Centre until April 9. Here's a selection of the images he took, explained in Andrew's own words.
"Treuliais tua mis gyda'r bobl cyn dechrau tynnu unrhyw luniau er mwyn dod i'w hadnabod ac er mwyn iddyn nhw ymddiried yndda i."
"I spent about one month with them before I even started taking any photos, getting to know them, gaining their trust."
"Treuliais nifer o nosweithiau yn cysgu ar y stryd a chymerodd y prosiect cyfan tua 18 mis i'w gwblhau."
"I spent many nights sleeping on the streets with them and the whole project took around 18 months to complete."
"Fedrwch chi ddweud cymaint am ddwylo person, a'r math o fywyd maen nhw'n byw."
"You can tell so much about a persons hands and the life they live."
"Fe ddes i wybod pethau personol iawn ... Roedd gan rai straeon ofnadwy am gyffuriau, trais, trais yn y cartref a phob math o bethau dychrynllyd."
"I found out some very personal things ... horrific stories of drug addiction, rape, domestic violence and all sorts of horrible things."
"Roedd rhai yn casáu sut roedden nhw'n edrych a rhai yn casáu eu hunain. Roedd hynny yn drist ac yn anodd i fi. Roedd rhai o'r bobl yn hoff iawn o'r camera ac yn ffotogenic iawn."
"Some of them hate the way they look, some hated themselves which is so saddening. That was hard for me. Some were very photogenic and loved the camera."
"Rwy'n ystyried pob un o'r bobl wnes i dynnu eu lluniau yn ffrindiau."
"I would consider all of them my friends."
"Fe ddysgais i gymaint am ddigartrefedd a sut deimlad ydy bod ar y stryd."
"I learnt so much about homelessness and what it feels like to be on the street."
"Rydw i wedi tynnu lluniau yn rhai o slyms gwaetha'r Trydydd Byd, ac eto mae gyda ni broblemau Trydydd Byd yn ein gwlad ni."
"I have photographed in some of the worst slums in the Third World, yet we still have Third World problems in our First World country."