ACau yn cefnogi gwahardd e-sigarennau mewn rhai mannau

  • Cyhoeddwyd
e-cigarette

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus.

Mi gafodd y llywodraeth gefnogaeth gan rhai o ACau Plaid Cymru ar ôl cyflwyno newidiadau.

Yn wreiddiol, roedd Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd e-sigarennau mewn pob man cyhoeddus caeedig, oherwydd pryder bod eu defnydd yn normaleiddio ysmygu.

Ond methodd y llywodraeth â chael cefnogaeth i hynny gan y gwrthbleidiau. Roedd y bleidlais ddydd Mawrth yn ymwneud â rhai lleoliadau yn unig.

Mae ACau wedi cefnogi newidiadau yn barod i wahardd e-sigarennau mewn ysgolion, ysbytai, gorsafoedd trenau a bysiau ac mewn llefydd sy'n gwerthu bwyd.

Fe fethodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei hymgais i atal y cynllun yn gyfan gwbl.

Mi fydd y bleidlais olaf ar y Mesur Iechyd Cyhoeddus yn digwydd yr wythnos nesaf.

Os y bydd y mesur yn cael ei basio mi allai'r gwaharddiad ar ddefnydd e-sigarennau ddod i rym yn 2017 ar y cynharaf.

Y bwriad yw ehangu'r rhestr yma i gynnwys lleoliadau fel sinemâu, siopau ac ardaloedd chwarae.