Cau 3 ysgol fach Sir Gâr ac ystyried dyfodol dwy arall

  • Cyhoeddwyd
Protest tu allan i Gyngor Sir Gâr
Disgrifiad o’r llun,
Ymgyrchwyr dros gadw ysgol Bancffosfelen yn agored yn protestio y tu allan i adeilad Cyngor Sir Gâr.

Mae pwyllgor craffu addysg Sir Gâr wedi pleidleisio dros gau ysgolion Llanmilo, Tremoilet a Thalacharn, a sefydlu ysgol ardal yn Nhalacharn.

Bydd penderfyniad y pwyllgor craffu ar ddyfodol ysgolion Bancffosfelen a Llanedi yn cael ei wneud ar ddyddiad arall.

Mi fydd y penderfyniad terfynol yn nwylo Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr.

Ystyried eto

Mi fydd y swyddogion yn ymweld â dwy o ysgolion cynradd eraill y sir cyn gwneud penderfyniad ar eu dyfodol.

Cafwyd cais i weld cynllun busnes gan Lywodraethwyr Ysgol Bancffosfelen ar ôl i gynnig o greu ymddiriedolaeth addysg gael ei gyflwyno. Byddai hyn yn golygu y byddai'r gymuned yn gyfrifol am yr ysgol gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Yn ogystal, fe gafodd cais am wybodaeth ychwanegol ei wneud i Swyddogion Addysg y Sir ar ôl i rieni ysgol Llanedi ddadlau cywirdeb gwybodaeth gafodd ei gyhoeddi mewn adroddiad swyddogol i'r pwyllgor.

Mae ffigyrau'r cyngor yn dangos bod yna 35 disgybl ym Mancffosfelen ac 18 yn Llanedi.

Yn ôl rhieni Llanedi, mae disgwyl i niferoedd yn yr ysgol honno gynyddu am fod yna gynlluniau i godi tai newydd yn Hendy a Phontarddulais.

Mi fydd disgwyl i ddisgyblion deithio i Ysgol Pontyberem os bydd Bancffosfelen yn cau ac i Hendy yn achos plant Llanedi.

'Cam cyntaf i gymunedau Cymraeg'

Mae'r cynnig o ystyried Ymddiredolaeth Addysg i Fancffosfelen wedi ei gefnogi gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai Ffred Ffransis: "Rydyn ni'n gobeithio nawr y bydd y Cyngor yn rhoi cyfarwyddiadau i swyddogion beidio llaesu dwylo bellach ond i weithio gyda chymunedau i weld sut orau i ddatblygu ysgolion.

"Gallai hyn fod yn gam cyntaf tuag at adfywio cymunedau Cymraeg."