Siom i Gaerdydd adref yn erbyn Leeds
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Caerdydd 0-2 Leeds
Mae 'na lai o obaith i Gaerdydd gyrraedd y gemau ail gyfle yn y bencampwriaeth yn dilyn canlyniad siomedig yn erbyn Leeds.
Er i'r Adar Gleision bwyso daeth gôl gan Souleymane Doukara.
Cafodd un o chwaraewyr Leeds ei anfon o'r cae wedi awr ond mi ddaeth gôl arall i'r ymwelwyr ym munudau olaf y gêm.
Dyma'r tro cyntaf i Gaerdydd golli adre ers 14 o gemau ac mae'r canlyniad yn ei gadael nhw ddau bwynt o dan y chwech ar y brig.