Cleifion ffliw i 'gadw draw'

  • Cyhoeddwyd
norovirusFfynhonnell y llun, TEM
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r haint yn ymledu'n hawdd ac yn beryglus i gleifion bregus

Mae prif swyddog meddygol Cymru yn annog pobl sy'n dioddef o'r ffliw neu'r norofeirws i gadw draw o ysbytai.

Gorfodwyd ysbytai i gau nifer o'u gwelyau er mwyn atal y feirws rhag heintio cleifion gwan.

Mae hyn yn cyfyngu ar adrannau gofal brys ac yn atal ysbytai rhag derbyn cleifion newydd.

Yn ôl Dr Ruth Hussey, bu'r cynnydd mewn achosion diweddar o ganlyniad i'r tywydd oer.

Meddai: "Gwell byddai osgoi ymweld â ffrindiau neu berthnasau os ydych chi wedi dioddef salwch yn y 48 awr ddiwethaf."

"Mae'r norofeirws yn ymledu'n hawdd iawn, ac yn debyg iawn i'r ffliw, gallai rhai cleifion mewn ysbytai fod yn fregus.

Mae adrannau gofal brys a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i brofi cynnydd gyda niferoedd 25% yn uwch eleni na'r cyfartaledd dyddiol hyd yn hyn.