Adfer golwg: Ymchwil o Gaerdydd yn torri tir newydd
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith ymchwil diweddar wedi torri tir newydd mewn adfer golwg cwningod dall.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, ar y cyd a Phrifysgol Osaka yn Japan, wedi profi ffordd o greu celloedd i'r llygaid sy'n ddatblygiad yn y maes.
Cafodd celloedd dynol eu trawsblannu i lygaid cwningod ac yn sgil yr arbrofion clinigol, cafodd golwg yr anifeiliaid ei adfer.
Mae'r astudiaeth ddiweddaraf yma'n ddatblygiad newydd sy'n profi ffordd o adfer celloedd mewn ardaloedd newydd o'r llygad gan gynnwys y lens, y gornbilen a'r retina.
'Paratoi'r ffordd'
Dywedodd yr Athro Andrew Quantock, awdur yr astudiaeth: "Mae'r gwaith ymchwil yma'n dangos y gallai un math o gell - yr epitheliwm cornbilennol - gael ei dyfu ymhellach yn y labordy, ac yna ei drawsblannu ar lygad cwningen gan adfer golwg.
"Gallai hefyd baratoi'r ffordd ar gyfer treialon clinigol dynol yn y dyfodol, fydd yn cynnwys trawsblannu blaen y llygad i adfer golwg."
Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ddibynnol ar rodd organau er mwyn trawsblannu llygaid. Gallai'r gwaith ymchwil diweddaraf yma agor y drws i gynyddu ar y 4,000 o driniaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd.