Llafur Cymru 'heb flino', meddai Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Bethan Rhys Roberts yn holi Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,
Bethan Rhys Roberts yn holi Carwyn Jones

Nid yw Llafur Cymru "wedi blino, na'n hunanfodlon" wedi pedwar tymor mewn grym, meddai'r prif weinidog.

Dywedodd Carwyn Jones bod ei blaid wedi cyflawni'r addewidion yr oedd wedi ei haddo, er y toriadau o San Steffan.

"Rydym wedi gweld Aston Martin yn dod i Gymru...diweithdra'n is na Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon," meddai wrth raglen The Wales Report.

Ychwanegodd ei fod yn "falch" o'r hyn yr oedd Llafur wedi ei gyflawni mewn grym.

Gan ymosod ar ei wrthwynebwyr gwleidyddol, dywedodd: "Bydd rhai pobl yn dweud 'wel mae'n etholiad arall, mae angen i bobl edrych am newid'.

Disgrifiad o’r llun,
Carwyn Jones ar raglen The Wales Report

"Mae pobl yn newid eu car, ond fydde chi ddim yn newid eich car am hen un, sydd yr hyn y mae pleidiau eraill yn ei gynnig.

"Mae gennym yr awch, yr egni, y momentwm, ac fe fydd hyn yn parhau heibio i fis Mai."

Wrth drafod y fersiwn amgen o Fesur Cymru gafodd ei gyhoeddi gan Lafur Cymru yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Mr Jones: "Mae Llywodraeth y DU wedi cael y cyfle, wedi rhoi mesur ar y bwrdd, ond roedd ganddo gymaint o namau fel nad oedd neb wedi ei gefnogi, yn llythrennol.

"Yn fwy na dim mae'r Alban yn derbyn sicrwydd, ac mae Cymru'n derbyn 'fudge' ac nid ydym am gael hyn yn y dyfodol."

Ychwanegodd: "Pam ar wyneb daear ddylai Cymru gael ei rhoi mewn gwaeth sefyllfa na'r Alban pan mae'n dod i bobl ddeall yn union beth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu ei wneud?"