Rhieni 'heb gael y gwir' am farwolaeth eu mab
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni milwr o Wynedd yn honni nad ydyn nhw wedi cael y gwir am farwolaeth eu mab yn Bosnia 20 mlynedd yn ôl.
Er bod cwest wedi dod i'r casgliad mai lladd ei hun wnaeth Aled Martin Jones o Chwilog ger Pwllheli, mae'r teulu yn dweud bod nifer o gwestiynau heb eu hateb.
Dywedodd y rhieni wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru fod anghysondebau hefyd yn y dystiolaeth sydd heb eu hymchwilio'n iawn gan y fyddin.
Mae'r teulu'n gobeithio bydd eu hachos yn cael hwb gan gwest newydd i farwolaeth Cheryl James o Langollen yng ngwersyll Deepcut gafodd ei ganiatáu ar ôl brwydr hir gan ei pherthnasau yn erbyn y dyfarniad gwreiddiol o hunanladdiad.
Cefndir
Ym mis Mehefin 1996 aeth Aled Martin Jones i Fosnia efo'r fyddin. Dair wythnos ar ôl cyrraedd, cafodd y dyn ifanc, 18, ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi ei saethu yn ei ben, gyda reiffl yn ei law yn gorwedd ar ei frest.
Fe wnaeth heddlu'r fyddin ymchwilio, ac fe gafodd adroddiad y 'Board of Inquiry' ei gyflwyno i'r cwest. Fe wnaeth y crwner ddyfarnu achos o hunanladdiad.
Ond roedd teulu Aled Jones yn anghytuno ac wedi dweud o'r cychwyn na wnaeth o ladd ei hun. Doedd dim arwydd o gwbwl ei fod yn isel ei ysbryd, meddai nhw, ac mae nhw'n dweud bod nifer o anghysondebau yn adroddiad y fyddin.
"Dwi'n meddwl bod rhywun yn rhywle yn gwybod yn union beth ddigwyddodd ar y noson," meddai Elaine Higgins, mam Aled.
"Unai mae'r fyddin yn celu be ddigwyddodd go iawn, neu mae be ddigwyddodd yn wahanol i'r hyn mae nhw'n ei ddweud. Tyda ni ddim yn gwybod. Dwi'n gobeithio wnaiff teuluoedd Deepcut gael y gwirionedd. Os mae nhw'n cael cyfiawnder, efallai y gwneith hynny agor y drws i deuluoedd eraill."
Y noson
Yn ôl y dystiolaeth, roedd Aled Jones wedi bod yn cymdeithasu ym mar y gwersyll y noson honno a bu mewn hwyliau da. Gadawodd y bar ar ôl hanner nos, ac yn ôl yr adroddiad fe arwyddodd am ei reiffl tua 0030.
25 munud yn ddiweddarach dywed ei gyd-filwyr eu bod wedi clywed sŵn ergyd. Mi wnaethon nhw ddarganfod Aled Jones yn gorwedd ar draws gwely mewn ystafell i ymwelwyr nad oedd yn cael ei defnyddio.
Yn ôl teulu Aled Jones, mae nifer o anghysondebau yn y dystiolaeth na chafwyd eu hymchwilio yn ddigonol - er enghraifft tystion sy'n dweud eu bod wedi gweld eu mab mewn dau le gwahanol ar yr run pryd rai munudau cyn ei farwolaeth.
Dywed Ms Higgins hefyd bod un tyst wedi dweud wrth y cwest bod hi a'i mab wedi ffraeo dros y ffôn ddiwrnod cyn y farwolaeth - sydd ddim yn wir, meddai hi.
Dywedodd: "Fe wnaeth un ohonyn nhw droi rownd a dweud wrth y crwner ei fod wedi cael ffrae efo fi y diwrnod cynt. Doeddwn i methu credu be oedd yn dod allan o'i geg. Nes i edrych arno a meddwl 'ond nes i ddim siarad efo fo'.
"Felly roeddwn i'n gwybod ei fod i'n dweud celwydd llwyr. Doedd ganddo ni ddim byd yn mynd i fewn i'r cwest, dim adroddiad, dim datganiad."
Roedd Ms Higgins yn gweithio yn Butlins, Pwllheli, y diwrnod cynt ac yn gallu profi nad oedd hi wedi derbyn galwad i'w gwaith y diwrnod hwnnw.
Mae hi wedi gofyn i'r fyddin am gofnodion o'r galwadau ffôn oedd wedi eu gwneud o'r gwersyll i brofi nad oedd Aled wedi ffonio hi - ond tydi hi erioed wedi cael gweld y cofnodion.
Dim ond ar ddiwrnod y cwest gafodd y teulu weld copi o adroddiad swyddogol y fyddin.
Maen nhw'n dweud bod Uwch Swyddog o'r fyddin yn bresennol drwy gydol y cwest ac nad oedden nhw'n cael gofyn unrhyw gwestiynau.
Dywedodd John Jones, tad Aled: "Mi oedd yna, wel faswn i'n dweud bod o'n commanding officer, neu oedd o'n rhywun reit uchel yn yr army - yn eistedd yn y tu ôl, dweud dim byd ond oedd o'n cofnodi beth oedd pawb yn ddweud.
"Ffordd o ni'n teimlo os fasa nhw'n deud dweud rwbath oedd nhw ddim fod i ddeud, fasa nhw ella fyny ar charge ar ôl mynd nôl de."
Roedd y teulu wedi eu cadw draw o'r milwyr oedd yn y cwest a chawso nhw ddim siarad gyda nhw.
"Ar ôl y cwest orffen o ni'n mynd i ddiolch i'r hogia oedd wedi bod yna fel witness," ychwanegodd Mr Jones.
"Roedd un wedi rhoi fel 'kiss of life' ac mae'n siŵr bod wedi bod yn anodd i neud hynny. Pan eshi drosodd mi gath nhw eu rysio o'r cwrt i'r car. O ni mond eisiau ysgwyd llaw efo nhw a diolch am drio safio bywyd Aled."
'Unol â'r rheolau'
Mewn llythyr at y teulu yn 2003 fe ddywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod yr ymchwiliad wedi ei gynnal yn unol â'r rheolau ac roedd y crwner yn fodlon gyda'r adroddiad.
Fe ddywedon nhw hefyd y byddai unrhyw anghysondebau arwyddocaol wedi cael eu herio gan heddlu'r fyddin a'i fod yn arferol a naturiol i dystion beidio â chofio pryd yn union ddigwyddodd pethau, meddai nhw.
Mewn datganiad i raglen Manylu, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod yr heddlu milwrol wedi ymchwilio i farwolaeth Aled Martin Jones nôl yn 1996 a bod ymchwiliad swyddogol hefyd wedi bod gan y fyddin yn ogystal â chwest.
Daeth y cwest i'r casgliad - meddai'r datganiad - ei fod wedi lladd ei hun a dylai unrhyw gwestiynau am y cwest gael eu rhoi i'r Crwner.
Manylu, Radio Cymru, 12:30, ddydd Iau 10 Mawrth ac wedyn ar iPlayer.