Rhieni Llangynfelyn yn rhoi'r gorau i her gyfreithiol
- Published
Dywed rheini yng Ngheredigion, sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn penderfyniad i gau ysgol wledig, na fyddan nhw'n ceisio am yr hawl i gael adolygiad barnwrol.
Ym mis Rhagfyr, fe bleidleisiodd cynghorwyr o 20 i 9 i gau Ysgol Llangynfelyn yn Nhre Taliesyn, rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Daeth yr ymgyrchwyr i'w penderfyniad ar ôl derbyn cyngor bargyfreithiwr, oedd yn dweud na fyddai barnwr yn debygol o ganiatáu cais am adolygiad barnwrol.
Yn ogystal ag Ysgol Llangynfelyn, fe benderfynodd y cynghorwyr hefyd i gau ysgol Cwm Padarn yn Llanbadarn Fawr.
Yn ôl y cyngor, mae nifer y disgyblion yn Llangynfelyn wedi disgyn islaw 30.
Mae Cwm Padarn yn agos i dair ysgol gynradd arall lle mae nifer y disgyblion yn disgyn, medd yr awdurdod.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Medi 2015