'Peryglu trafodaeth rydd' ym myd addysg
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhaglen sydd wedi ei llunio i geisio rhwystro pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio mewn peryg o droi staff prifysgolion a cholegau "yn arf gwrando a chlustfeinio'r wladwriaeth," yn ôl un academydd.
Rhan yn unig o strategaeth gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU yw rhaglen Prevent, ond mae'n rhan sydd wedi ei anelu yn bennaf at bobl ifanc.
Ers Medi 2015, mae gan brifysgolion y DU ddyletswydd newydd lle mae'n rhaid iddynt geisio nodi peryglon posib o radicaleiddio.
Dywed Dr Rizwaan Sabir, darlithydd mewn Troseddeg, y bydd y ddeddf "yn rhoi taw ar drafodaeth a mynegiant " ym maes addysg uwch.
Deddf newydd
Ond yn ôl Barrie Phillips, un o ddeg cydlynydd rhaglen Prevent ym maes addysg uwch, mae'r strategaeth yng Nghymru yn cynnig "y model orau o ran ymarferiad gorau."
Yn ôl Deddf Gwrth Derfysgaeth a Diogelwch 2015, mae gan gyrff statudol, gan gynnwys carchardai, ysbytai, ysgolion a phrifysgolion, ddyletswydd gyfreithiol i geisio "atal pobl rhag cael eu denu tuag at derfysgaeth."
Mewn colegau a phrifysgolion mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei gweld fe un ddadleuol, gan fod gan y sefydliadau yn ôl Deddf Addysg 1986 ddyletswydd hefyd i sicrhau "rhyddid trafodaeth."
Fe gafodd y ddeddf honno ei diwygio yn rhannol ar gyfer sectorau addysg uwch ac addysg bellach.
Nawr mae'n rhaid i golegau a phrifysgolion nodi a mynd i'r afael â risg a allai o bosib arwain at radiclaeiddio.
'Targed posib'
Mae hynny'n cynnwys areithwyr o'r tu allan, ymchwil i faes sensitif a'r defnydd o'r we.
Mae ganddynt hefyd ddyletswydd i gyfeirio unrhyw un maen nhw'n credu sy'n darged posib at raglen di-radicaleddio y llwyodraeth, Channel.
Fe gafodd Dr Sabir, sy'n arbenigwr mewn dulliau gwrth derfysgaeth y DU ym mhrifysgol John Moores, Lerpwl, ei gadw yn y ddalfa ar ben ei hun am wythnos yn 2008 ar ôl iddo lawrlwytho llawlyfr hyfforddiant Al Qaeda.
Roedd y llawlyfr ar gyfer ei waith ymchwil fel rhan o'i ddoethuriaeth PhD ar wrth-derfysgaeth.
Cafodd ei ryddhau heb gyhuddiad, ac yn ddiweddarach fe wnaeth Heddlu sir Nottingham dalu £20,000 iddo mewn setliad sifil cyn i'r achos fynd i'r llys.
Dywedodd wrth raglen Eye on Wales, BBC Radio Wales: "Yn hytrach nac arwain i drafodaeth gyda'r bobl hyn a'u gwneud yn ymwybodol o'r peryglon, mae'n gwneud y gwrthwyneb.
"Mae'n creu teimlad o ofn, ac mae o hefyd yn rhoi taw ar drafodaeth a mynegiant.
"Mae'n troi staff a gweinyddwyr y brifysgol yn arf gwrando a chlustfeinio'r wladwriaeth."
Ond mae Dr Paul Fitzpatrick, capel a swyddog Prevent ym mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn anghytuno.
"Nid wyf yn swyddog gyda'r heddlu. Dwi ddim yn gweithio i'r gwasanaethau diogelwch a dwi ddim yn ysbieio," meddai.
"Ystyr Prevent yw diogelu ein myfyrwyr."
Roedd o o'r farn bod rhalgen Prevent yng Nghrymu "tua thair blynedd ar y blaen i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr."
"Rwy'n gweld y peth yn yr un modd a dwi'n gweld cam-drin plant.
"Pe bai chi'n ymwybodol o achos cam-drin wrth gwrs y byddwn yn cysylltu â'r awdurdodau.
"Dwi ddim yn gweld y broses o feithrin pobl ifanc a'u radicaleiddio yn wahanol i hynny."
Dywedodd Barrie Phillips, un o 10 cydlynydd sy'n cael eu cyflogi gan y Swyddfa Gartref: "Ydi Cymru yn cael ei ystyried fel bod â'r ymarfer gorau yn y maes? Dwi'n meddwl mai'r ateb fyddai, 'ydi.'"
Eye on Wales, Dydd Sul 13 Mawrth 12.30pm, BBC Radio Wales