Cynllun cyfrifiadurol £40m yn methu targedau swyddi
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cynllun cyfrifiadurol gwerth £40m greu llai na hanner y swyddi yr oedd wedi gobeithio ei wneud, a chefnogi llai na hanner y nifer o fusnesau yr oedd wedi bwriadu eu cefnogi.
Cafodd HPC Wales (High Performance Computing Wales Ltd) ei sefydlu er mwyn darparu rhwydwaith cyfrifiadurol i fusnesau a phrifysgolion ei ddefnyddio ar gyfer eu gwaith ymchwil rhwng 2010 a 2015.
Bwriad y cynllun oedd creu dros 400 o swyddi, ond dim ond 170 o swyddi gafodd eu creu yn y pen draw. Roedd y cwmni'n gobeithio cefnogi 550 menter yn ystod y pum mlynedd gyntaf, ond dim ond 247 o fusnesau gafodd eu cefnogi.
Dywed HPC Wales bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant.
Cafodd y cynllun ei redeg yn wreiddiol gan chwe phrifysgol - prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Derbyniodd y cynllun £19m o gyllid Ewropeaidd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), £10m gan Lywodraeth San Steffan a £5m gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd David Elcock, prif weithredwr a swyddog cyllid HPC Wales wrth BBC Cymru Fyw: "Mae wedi bod yn gynllun heriol ag anodd ond mae'n un lle rydym wedi cyflawni llawer a lle rydym wedi creu ased cenedlaethol i Gymru, wrth sefydlu rhwydwaith uwch-gyfrifiadurol gyntaf Cymru. Mae ganddo ni beiriant a rhwydwaith y gall Cymru fod yn falch ohono, ac mae ymysg y gorau yn Ewrop.
Targedau
"Roedd y targedau gwreiddiol yn anodd ac fe gafon nhw eu gosod yn 2009 a 2010 cyn dechrau'r dirwasgiad economaidd, a chyn i'r economi droi, nid ond yng Nghymru a'r DU ond yn Ewrop a'r byd.
"Felly fe gafodd y targedau eu gosod mewn cyfnod, ac yna, pan ofynnwyd i'r prosiect gyflawni'r targedau roedd y tirlun economaidd wedi newid, a newid yn sylweddol. Felly rwy'n credu bod HPC Wales wedi gwneud yn dda iawn i greu 170 o swyddi newydd yma yng Nghymru na fyddai'n bodoli heblaw am ein gwaith ni."
Mae prif swyddfa'r cwmni yn adeilad Tŷ Menai ym Mangor ar fin cau, tra bod cais newydd am arian Ewropeaidd i ariannu cynllun HPC Wales Rhan 2 yn cael ei baratoi gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o gonsortiwm sy'n cynnwys prifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe ag Aberystwyth.
Bydd ail ran y cynllun yn para am bum mlynedd os bydd y cais yn llwyddiannus, ac fe fydd yn canolbwyntio ar ymchwil a mentergarwch.
Llywodraeth
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd HPC Wales ei ariannu er mwyn darparu adnoddau uwch-gyfrifiadurol o safon er mwyn cynorthwyo ymchwil a mentergarwch. Fe wnaeth y cynllun adrodd bod 170 o swyddi wedi eu creu, gan gynnig cymorth i 247 o fusnesau a chreu buddsoddiad o £3.74m i economi Cymru.
"Mae'r targedau gwreiddiol yn adlewyrchu natur uchelgeisiol a dyfeisgar y cynllun. Hwn oedd y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru ac fe gafodd y cynllun ei drefnu cyn i effaith sylweddol yr argyfwng economaidd ddod yn amlwg. Fe ddechreuodd y cynllun weithio'n llawn yn hwyrach na'r disgwyl. O ganlyniad, cafodd maint y cynllun ei leihau o gymharu gyda'r hyn yr oedd wedi ei gynllunio'n wreiddiol, a bu adolygiad o'r targedau o achos hynny."