Marwolaeth Bae Caerdydd: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi bod o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio pensiynwraig yng Nghaerdydd.
Mae Kris Wade, 36 oed yn cael ei gyhuddo o ladd Christine James, oedd yn 65 oed, yn ei fflat yn y bae.
Clywodd y llys fod Mr Wade yn byw yn yr un ardal a Mrs James.
Dechreuodd ymchwiliad yr heddlu wedi i berthnasau i Mrs James gysylltu â'r heddlu i ddweud nad oedd hi wedi cyrraedd Maes Awyr Gatwick er mwyn dal awyren i Florida.
Aeth Mr Wade o flaen llys ynadon Caerdydd ddydd Iau, gan siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad yn unig.
Mae'n cael ei gyhuddo o lofruddio Mrs James rywbryd rhwng 25 Chwefror a 3 Mawrth yn Hansen Court, Century Wharf ym Mae Caerdydd.
Cafodd ei gadw'n y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae teulu Christine wedi cael gwybod y diweddara am ddatblygiadau heddiw ac maen nhw'n parhau i gael cefnogaeth swyddogion arbenigol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Rydym yn diolch am gefnogaeth y gymuned yn Century Wharf yn ystod ein hymchwiliad, sy'n parhau, ac rydym yn apelio ar i unrhyw oedd yn nabod Christine, neu sydd ag unrhyw wybodaeth arall i gysylltu â Heddlu'r De."