Corff Beddau: Profion ar olion bysedd

  • Cyhoeddwyd
John Sabine a Leigh Ann SabineFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
John Sabine a Leigh Ann Sabine

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i olion bysedd gafodd eu darganfod ar liain blastig a ddefnyddiwyd i guddio corff dyn gafodd ei ddarganfod mewn gerddi fflatiau ym mhentre' Beddau.

Mae 'na ddyfalu fod John Sabine wedi cael ei ladd gan ei wraig, Lee Ann Sabine.

Bu farw Ms Sabine o ganser ychydig gyn i weddillion ei gwr gael eu darganfod ar 24 Tachwedd 2015.

Roedd wedi ei ladd drwy ergyd i'w ben.

Mewn gwrandawiad yn Aberdâr, dywedodd Andrew Barkley iddo dderbyn adroddiad post mortem terfynol ar 4 Mawrth eleni.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff John Sabine ei ddarganfod ym mis Tachwedd 2015.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn dal i ymchwilio i rai materion. Dywedodd y Ditectif Ringyll Meredith Griffith wrth y crwner fod "gwaith fforensig yn parhau. Gwaith ar olion bysedd y deunydd gafodd ei ddefnyddio i lapio'r corff, ac olion bysedd Ms Sabine."

Dywedodd y crwner fod teulu Sabine yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn cael y wybodaeth ddiweddara ar yr achos."

Nododd y crwner y bydd y cwest llawn i farwolaeth John Sabine yn dechrau ar 19 Mai.