Y Ceidwadwyr yn cynnig 'urddas a diogelwch' i bobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
RT

Byddai pobl oedrannus yn cael "urddas a diogelwch" o dan lywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd, meddai arweinydd y blaid.

Fe amlinellodd Andrew RT Davies ei gynlluniau i osod uchafswm ar gost gofal mewn cartrefi preswyl ac i adael i bobl gadw mwy o'u hasedau petawn nhw'n mynd i gartref gofal.

Etholiad y Cynulliad fis Mai yw'r "mwyaf pwysig mewn cenhedlaeth", meddai wrth gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen.

Mynnodd Mr Davies hefyd fod pleidlais dros ei blaid yn gyfle i "sicrhau newid go iawn".

Fe ymosododd yn ddi-flewyn ar dafod ar record Llafur mewn grym a chyhuddo'r blaid o fod yn "ddrwg i'ch iechyd" ac o "redeg allan o stêm".

Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sydd wedi gwrthod cefnogi llywodraeth Lafur arall ym Mae Caerdydd, ychwanegodd Mr Davies.

Dywedodd na fyddai unrhyw un yn talu mwy na £400 yr wythnos am ofal ac y byddai hawl gan bobl gadw hyd at £100,000 o'u cynilion ag eiddo eu hunain cyn iddyn nhw gael eu gorfodi i dalu am ofal.

Mae hynny dros bedair gwaith yn fwy na'r swm presennol o £24,000.

"Llywodraeth fyddai'n darparu urddas a diogelwch i bobl mewn oed," meddai Mr Davies.

Prif addewidion

Mae disgwyl i Mr Davies amlinellu prif addewidion ei blaid ar gyfer yr etholiad y Cynulliad ar 5 Fai.

Yn ogystal â'r polisi i leihau cost gofal, mae'r Torïaid yn addo gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd bob blwyddyn dros dymor nesaf y Cynulliad.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw'n "trawsnewid" hyfforddiant ar gyfer athrawon, ac y byddai ysgolion yn cael arian yn uniongyrchol o`r Llywodraeth, yn hytrach na thrwy'r awdurdodau lleol.

Gobaith y blaid yw cipio'r un seddi ymylol wnaetho nhw ennill oddi wrth Lafur yn yr etholiad cyffredinol y llynedd - etholaethau megis Gogledd Caerdydd, Dyffryn Clwyd a Gŵyr.

Maen nhw'n dweud bod canlyniad yr etholiad hwnnw yn dangos bod yna ddigon o gefnogaeth gan y Ceidwadwyr yng Nghymru i rwystro Llafur rhag ffurfio llywodraeth arall ym Mae Caerdydd.

Dansoddiad Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick

Daw'r tymor cynadleddau Cymreig i ben gyda'r Ceidwadwyr mewn hwyliau da wrth edrych ymlaen at etholiad y Cynulliad.

Gobaith y blaid yw y bydd llwyddiannau Etholiad Cyffredinol y llynedd yn esgor ar fuddugoliaethau tebyg eleni. Ar y lleiaf, mae'r blaid yn gobeithio ennill pob sedd y maent eisoes yn eu cynrychioli yn San Steffan a'i gobaith yw bod gafael Llafur ar ambell i sedd arall, yn enwedig yn y gogledd, yn fregus.

Fe fydd trefnwyr y Gynhadledd yn ceisio cadw'r ffocws ar record Llywodraeth Cymru a'u haddewidion ei hun, yn enwedig y rheiny'n ymwneud ag iechyd, gofal plant a gofal cymdeithasol.

Fe fydd 'na llai o bwyslais ar y posibilrwydd o dorri trethi trwy ddefnyddio pwerau trethiannol newydd y Cynulliad.

Yn groes i ddymuniadau'r trefnwyr mae'n debyg y bydd rhaniadau'r blaid ynghylch Ewrop yn taflu cysgod dros y gynhadledd yn enwedig yn sgil penderfyniad Andrew R.T Davies i gefnogi'r ymgyrch i adael yr Undeb.

Yn gyhoeddus fe fydd y cynrychiolwyr yn mynnu eu bod wedi 'cytuno i anghytuno' ond gallai'r tensiynau ferwi i'r wyneb ar unrhyw adeg.