Gwasanaeth 'newydd a gwell' TrawsCymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaeth bws TrawsCymru rhwng Bangor ac Aberystwyth.
Dywedodd byddai'r newidiadau'n arwain at wasanaeth T2 "newydd a gwell".
Dyna gam olaf y gwaith o weddnewid gwasanaethau TrawsCymru, sydd wedi arwain at gyflwyno 46 o fysus newydd ar ei chwe llwybr hir ers 2011.
Yn ogystal â chyflwyno pedwar bws Optare Metrocity newydd sydd â seddi mwy cyfforddus, WiFi am ddim a system ddwyieithog i gyhoeddi'r stop nesaf, mae amserlen newydd saith niwrnod yr wythnos wedi'i chyflwyno, gyda'r nod o gael pobl i'w gweithle, at hyfforddiant ac at wasanaethau.
Mae gwelliannau tebyg wedi'u gwneud i chwe llwybr rhwydwaith bws pell TrawsCymru, sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Mrs Hart: "Y lansiad hwn heddiw o'r gwasanaeth T2 newydd rhwng Bangor ac Aberystwyth yw penllanw rhaglen gynhwysfawr o welliannau i TrawsCymru, sy'n cynnwys darparu cerbydau modern sy'n fwy hygyrch, yn fwy cyfforddus ac sydd â chyswllt gwell â'r Rhyngrwyd.
"Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mor bwysig yw gwasanaethau bws yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad, er mwyn i bobl allu manteisio ar swyddi a gwasanaethau.
"Rydym bellach wedi rhoi ar waith yr holl argymhellion a gyhoeddodd y Dr Victoria Winckler yn ei hadolygiad o rwydwaith TrawsCymru.