Dedfrydu Sylvan Maurice Parry i garchar am oes

  • Cyhoeddwyd
ymosodiadFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru/Daily Post

Mae dyn a geisiodd lofruddio ei wraig wedi ei garcharu am oes gyda lleiafswm o saith mlynedd a hanner dan glo.

Roedd Sylvan Maurice Parry, 46, o Gaernarfon wedi cicio Fiona Parry yn ei phen sawl gwaith wrth gerdded ei phlant i'r ysgol yn y dref ym mis Medi'r llynedd.

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron yr Wyddgrug bod yr ymosodiad yn "ffyrnig" a'i fod yn peri risg i'r rheiny sy'n ei groesi.

Oni bai am y swyddogion tân aeth yno, fe allai'r canlyniad wedi bod llawer yn waeth, ychwanegodd.

Roedd Mr Parry o Ffordd Cibyn yng Nghaernarfon, wedi cyfaddef iddo golli ei dymer, ond dywedodd nad oedd yn bwriadu lladd Mrs Parry, sydd yn fam i chwech o blant.

Cafodd y rheithgor - o fwyafrif o 10 i 2 - Mr Parry yn euog o geisio llofruddio dydd Iau.

Fe glywodd y llys fod Mrs Parry wedi dioddef anafiadau difrifol oedd wedi newid ei bywyd, er nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r hyn ddigwyddodd iddi y diwrnod hwnnw.

Dywedodd Sarsiant Gary Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hon yn weithred erchyll o drais a welwyd gan aelodau o'r cyhoedd ac yn enwedig plant ifanc oedd ar eu ffordd i'r ysgol."