Enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2016
- Cyhoeddwyd

Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni wedi cael eu datgelu mewn seremoni arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Sefydlwyd y Gwobrau er mwyn cydnabod y gorchestion rhagorol a rhai o gyfraniadau anhygoel y mae pobl o bob math o gefndiroedd wedi'u gwneud.
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Dyma grŵp rhagorol o enillwyr - llongyfarchiadau mawr i bob un sydd wedi ennill gwobr heno; rydych chi'n glod i'ch teuluoedd, ffrindiau, cymunedau a Chymru gyfan.
"Rwy'n gwybod bod yna bobl ragorol yn gwneud pethau eithriadol yma yng Nghymru. Wrth imi deithio o amgylch y wlad, rwy'n ffodus i gael gweld drosof fy hun yr ymdrechion y mae pobl yn eu gwneud, bob dydd, i wneud Cymru yn wlad mor wych.
"Mae Gwobrau Dewi Sant yn rhoi cyfle i ni gydnabod y bobl hynny sy'n mynd gam ymhellach, yn aml heb y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu."
Enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2016:
Dewrder - Peter Fuller
Enillodd Peter Fuller Wobr Dewi Sant am Ddewrder am ei rôl yn atal ymosodiad ofnadwy â thwca.
Pan ymosodwyd ar Dr Sarandev Bhambra wrth iddo siopa yn ei archfarchnad leol, camodd Peter rhwng ef a'i ymosodwr heb feddwl dim am ei ddiogelwch ei hun. Bu'n ddigon medrus i atal yr ymosodiad â thwca a thrwy wneud hynny, fe achubodd fywyd.
Dinasyddiaeth - Janet Williams
Mae Janet Williams o Borthmadog wedi ennill y Wobr Dinasyddiaeth am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant allai ddim, am ba bynnag reswm, fyw gyda'u teuluoedd eu hunain. Ynghyd â magu ei thri phlentyn, mae Janet, dros y 35 mlynedd diwethaf, wedi gofalu am fwy na 100 o blant a hyd yn oed wedi mabwysiadu rhai plant hefyd.
Mae Janet hefyd wedi mentora a hyfforddi gofalwyr maeth eraill. Hi sefydlodd Cymdeithas Gofalwyr Maeth Gwynedd gan ei gadeirio hefyd ac mae hi wedi bod yn ymddiriedolwr gyda Rhwydwaith Maethu Cymru.
Menter - Dr Dominic Griffiths
Sefydlodd Dr Dominic Griffiths gwmni Alesi-Surgical sy'n gwneud dyfeisiau meddygol pwysig ac mae wedi ennill y Wobr am ei lwyddiant eithriadol yn creu a marchnata Ultravision, system newydd sy'n clirio mwg llawfeddygol er mwyn i'r llawfeddyg weld, ac yn ei atal rhag cael ei ryddhau i'r theatrau yn ystod llawdriniaethau laparoscopig.
Bellach, mae disgwyl y bydd y ddyfais yn cael ei hallforio i ysbytai ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae eisoes wedi ennill gwobr ledled y wlad yn y Gwobrau Effaith Unico Praxis, yn ogystal â Menter Newydd a gwobr 'Dewis y bobl' am y tro cyntaf yng ngwobrau Effaith ac Arloesi Prifysgol Caerdydd eleni.
Chwaraeon - Chris Coleman
Enillodd Chris Coleman o Abertawe y Wobr am ei rôl yn helpu tîm pêl-droed Cymru gyrraedd Pencampwriaeth Ewrop 2016. Roedd Cymru gyfan wrth eu boddau, dyma'r tro cyntaf ers 1958 i'r tîm gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth fawr fel hon. Mae ei angerdd di-gwestiwn i lwyddo yn amlwg wrth iddo ymwneud â'r cefnogwyr a'r chwaraewyr fel ei gilydd; mae ef a'r tſm yn ysbrydoliaeth mawr i blant ifanc ledled y wlad.
Person Ifanc - Carwyn Williams
Cafodd Carwyn Williams, sydd o Landudno, ei ddiarddel o'r ysgol, ac wedi ei drosglwyddo i uned arbenigol, gadawodd yr uned honno heb gymwysterau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae wedi newid ei fywyd yn gyfan-gwbl. Mae bellach yn wirfoddolwr brwdfrydig ym mhrosiect Delwedd Iach, ble y mae'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a ffordd o fyw iach i bobl ifanc.
Enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol StreetGames ac roedd yn rhan o grŵp dderbyniodd Wobr Canmoliaeth Uchel gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Diwylliant - Owen Sheers
Derbyniodd Owen Sheers Wobr Diwylliant am ei waith fel un o grefftwyr geiriau mwyaf amlwg Cymru- mae'n awdur, bardd a dramodydd adnabyddus. Enillodd deitl Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith a chafodd ei gerdd "Mametz Wood" ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru, a'i disgrifio fel un o'r cynyrchiadau mwyaf arloesol i goffáu canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn 2015 ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Athro Creadigrwydd, ble y mae'n amlwg iawn yn meithrin creadigrwydd ymysg staff, myfyrwyr a'r gymuned.
Arloesedd a Thechnoleg - Geraint Davies
Am ei waith wrth ddatblygu elfen o'r ap fideo amser real, Periscope, rhoddwyd y Wobr Arloesedd a Thechnoleg i Geraint Davies o Ynys Môn.
Lansiwyd Periscope ym mis Mawrth 2015 ac mae'n galluogi defnyddwyr i wylio'r byd, mewn amser real, drwy lygaid rhywun arall, gan ddarlledu digwyddiadau byw i'w ddilynwyr yn syth drwy fideos. Yr elfen fideo hollbwysig hon gan Geraint sy'n gwneud i'r ap weithio. Enillodd yr ap deitl Ap y Flwyddyn 2015 gan yr Apple App Store, lai na blwyddyn wedi ei lansio.
Rhyngwladol - Julie Gardner MBE
Mae Julie Gardner wedi ennill y Wobr Ryngwladol am ei blynyddoedd o waith yn codi proffil cynhyrchu teledu yng Nghymru, a'r diwydiannau creadigol ledled y byd. Mae wedi bod yn hyrwyddo Cymru ers blynyddoedd maith - pan oedd yn arwain gwaith adfywio cyfres Dr Who yn 2005, chwaraeodd ran allweddol yn sicrhau bod y rhaglenni'n cael eu gwneud yng Nghymru, yn hytrach na stiwdios y BBC yn Lloegr.
Ers ymuno â BBC Worldwide America fel Is-Lywydd Uwch yn 2009, mae wedi defnyddio ei swydd i hyrwyddo Cymru i'r diwydiant teledu yn yr UD. Mae wedi bod yn gyfrifol am ddenu mewnfuddsoddiad gwerthfawr i Gymru, sydd wedi arwain at greu stiwdio fodern newydd yn Abertawe. Ei menter ddiweddaraf yw Bad Wolf, sef cwmni newydd yn Ne Cymru a Los Angeles sy'n gweithio ar draws yr Iwerydd ac sy'n cynhyrchu cyfresi teledu a ffilmiau â chyllidebau mawr ar gyfer y farchnad deledu fyd-eang.
Gwobr Arbennig y Prif Weinidog - Nigel Owens
Mae Nigel yn cael ei ystyriad fel un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd ac mae e wedi ennill y wobr hon am y cyflawniad hwnnw ac am fod yn lysgennad gwych i Gymru.
Fe oedd yr unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc a Chwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd - achlysur mwyaf cofiadwy gyrfa Nigel oedd dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd 2015 yn Lloegr, a wyliwyd gan gynulleidfa o tua 120 miliwn o bobl o gwmpas y byd.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Llongyfarchiadau i bob un o'r enillwyr yn y Gwobrau heno. Dwi'n cymeradwyo ac yn diolch i chi am eich dewrder, eich menter a'ch rhagoriaethau.
"Hoffwn longyfarch pob un o'r teilyngwyr a gyrhaeddodd restr fer y Gwobrau, dylech chithau hefyd fod yn hynod falch o'ch llwyddiant."