Y grefft o gyfweld
gan Gareth Rhys Owen
Chwaraeon BBC Cymru
- Published
Y charade mwya' ers i Lance Armstrong wneud hysbyseb i Nike yn dweud "What am I on? I'm on my bike busting my a** six days a week. What are you on?"
Un o brif amcanion gohebydd wrth baratoi cyfweliad yw creu teimlad o naturioldeb - hynny yw, i wneud i'r person sy'n cael ei gyfweld deimlo fel ei fod e yn y dafarn gyda'i ffrind gorau yn trafod beth i'w ddewis o'r fwydlen.
Ond mewn gwirionedd ma' hyn yn amhosib gan fod holl elfennau hanfodol cyfweliad yn artiffisial: y camera, y lleoliad, y testun trafod a'r ffaith bod y ddau berson sy'n ymwneud â'r broses yn gobeithio am ganlyniad tra gwahanol.
Prin iawn yw'r cyfweliadau dadleuol sydd i'w gweld y dyddiau yma. Mae 'na eithriadau, yn enwedig wedi gêm, pan fo adrenalin, rhwystredigaeth ac angerdd yn aml yn golygu bod y rheiny sy'n cael eu cyfweld yn fwy tebygol o wyro i ffwrdd o'r neges.
Roced niwclear Eddie
Felly o ystyried y cyd-destun yma, mae sylwadau hyfforddwr rygbi Lloegr, Eddie Jones, bod Cymru yn sgrymio'n anghyfreithlon wedi dod fel tipyn o syndod.
Dewch i ni gael un peth yn glir: nid crefft y gohebydd wnaeth ddenu'r dyfyniad yna o geg Jones, roedd y cwestiwn yn un digon di-nod yn ymwneud â thestun gwbl wahanol ac fe wnaeth Jones wirfoddoli'r dyfyniad a'i hailadrodd sawl gwaith.
Roedd yr Awstraliad yn gwbl ymwybodol o'r hyn yr oedd yn ei wneud a'r sgil effeithiau.
Roedd e am gorddi'r dyfroedd. Roedd e am hawlio'r dudalen ôl. Roedd e am gyflwyno'r lein berffaith.
Pam gwneud hyn felly? Mae'r ateb yn syml: mae Jones yn ceisio cael dylanwad ar y gêm ac yn fwy penodol, yn ceisio cael dylanwad ar y dyfarnwr Craig Joubert. Ei obaith yw defnyddio'r cyfryngau a llais y bobl i roi pwysau ar y dyn yn y canol i ffafrio ei dîm e yn ystod y frwydr enfawr yn HQ brynhawn Sadwrn.
Mae rhai wedi ystyried bod Jones yn chwarae gemau meddyliol, ond i fi ma' gemau meddyliol yn dacteg llawer mwy cynnil sy'n atgoffa dyn o frwydr ysbïo'r Rhyfel Oer yn hytrach na'r roced niwclear y mae Jones wedi ei danio.
A fydd e'n gweithio? Yr ateb synhwyrol, arwynebol yw "na". Does dim modd cwestiynu hygrededd Joubert na amau'r ffaith na fydd y gŵr o Dde Affrica yn gwbl ddi-duedd b'nawn Sadwrn.
Ond does dim amheuaeth bod sgrymio bellach dan y chwyddwydr a bydd sylw'r gwybodusion, y cefnogwyr, yr hyfforddwyr - ac o ganlyniad y dyfarnwr - yn troi'n anochel at yr elfen honno o chwarae.
Os bydd Lloegr yn cael y gorau o'r sgrymiau ac yn ennill fe fydd Eddie Jones yn cael ei ganmol fel strategydd a gwleidydd o fri. Ac os yw'n colli, o leia' ma' ganddo fe esgus eisoes wedi'i baratoi ...
Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Chwefror 2016
- Published
- 11 Chwefror 2016
- Published
- 26 Chwefror 2016