Cwest Cheryl James: Heddwas yn cyfaddef diffygion

  • Cyhoeddwyd
Preifat Cheryl James

Mae swyddog gyda'r Heddlu Milwrol Brenhinol oedd yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaeth Cheryl James yng ngwersyll Deepcut wedi dweud wrth y cwest nad oedd yn gallu bod yn sicr nad oedd unrhyw un wedi tarfu ar y safle lle cafwyd hyd i'w chorff.

Cafwyd hyd i gorff y Preifat Cheryl James, 18 oed o Langollen, gydag anaf i'w phen ym mis Tachwedd 1995.

Roedd hi'n un o bedwar milwr fu farw ym marics Deepcut yn Surrey rhwng 1995 a 2002.

Dywedodd Michael Harrison wrth y cwest nad oedd yn gallu bod yn sicr mai Cheryl James oedd yn gyfrifol am danio'r ergyd o'r dryll a'i lladdodd.

Ond ychwanegodd nad oedd unrhyw beth a welodd yn awgrymu mai nad achos o hunanladdiad yr oedd yn ymchwilio iddo.

Heddweision a swyddogion

Cyfaddefodd Mr Harrison fod diffygion yn yr ymchwiliad yr oedd yn gyfrifol amdano yn fuan wedi i gorff y milwr ifanc gael ei ddarganfod.

Dywedodd wrth y cwest yn Woking, Surrey, fod heddweision a swyddogion wedi cyrraedd y safle lle cafwyd hyd i gorff y Preifat James llai nag awr ar ôl iddi gael ei darganfod.

Roedd y farwolaeth wedi ei ddisgrifio fel un nad oedd yn amheus, meddai, ac fe wnaeth wirfoddoli i ymchwilio ar ran swyddfa'r crwner.

Ond awgrymodd Alison Foster QC ar ran teulu'r Preifat James fod safon ei ymchwiliad "wedi gostwng" ac "nad oedd yn ddefnyddiol iawn" am iddo gymryd yn ganiataol bod yr achos yn un o hunanladdiad.

Doedd "llwybr troed fforensig" heb ei ddiogelu at y safle, ac roedd nifer o achlysuron lle gallai rhywun darfu ar leoliad y darganfyddiad, meddai.

Gofynnodd Ms Foster iddo: "Ydych chi'n derbyn y dylai chi wedi sicrhau fod ymchwiliad fforensig llawn?"

"Ydw", meddai Mr Harrison.

Mae'r cwest yn parhau.