40 yn dioddef o salwch canolfan arddio ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae 40 o bobl wedi eu heffeithio gan salwch sydd wedi ei gysylltu gyda chanolfan arddio ym Mhowys, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd y bobl eu heffeithio ar ôl ymweld â Chanolfan Arddio The Old Railway Line yn Aberllynfi ar Sul y Mamau.
Mae swyddogion yn ymchwilio i'r hyn wnaeth achosi'r salwch.
Mae'r ganolfan yn parhau i fod ar agor, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.