Torïaid yn 'unedig' er gwaethaf dadl Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,
Crabb: 'Y blaid yn unedig wrth gefnogi Andrew RT Davies yn etholiadau'r cynulliad'

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi yn mynnu fod y Ceidwadwyr yn unedig tu ôl i'w harweinydd yng Nghymru, er gwaetha'r rhwygiadau dwfn o fewn y blaid am y refferendwm ar Ewrop.

Dywedodd Mr Crabb fod y Ceidwadwyr yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn arwain llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Mae Mr Davies wedi dweud ei fod yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm, sy'n wahanol i safbwynt Mr Crabb a'r Prif Weinidog David Cameron.

Fe wnaeth Stephen Crabb a David Cameron ddefnyddio eu hareithiau yng nghynhadledd Gymreig y blaid yn Llangollen er mwyn galw ar etholwyr i bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r areithiau wedi arwain i ffrae o fewn y blaid.

'Gweledigaeth glir'

Dywedodd David Jones AS, cyn Ysgrifennydd Cymru ac un sy'n perthyn i'r adain Ewrosgeptic, ei fod o'n "siomedig" fod Mr Cameron wedi defnyddio'r llwyfan i hyrwyddo'r ddadl o blaid aros yn yr UE, gan ddweud fod y blaid i fod yn niwtral.

Ond dywedodd Mr Crabb fod gan Llywodraeth y DU weledigaeth glir o ran aros yn y UE.

"Wrth gwrs mae'r prif weinidog yn mynd i ddefnyddio'r cyfle i egluro ei safbwynt ac fe wnaeth o gymryd cryn dipyn o amser yn ei araith i egluro yn fanwl y dadleuon penodol ynglŷn â'r farchnad unigol, rheolau masnachu, a pam ei bod yn bwysig iawn i ffermwyr Cymru - o ran allforion cig eidion ac oen - ein bod yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. "

'Angen newid'

Disgrifiad o’r llun,
Mae Andrew RT Davies o blaid gadael yr UE

Gwadodd fod yr araith wedi ei chyfeirio at Mr Davies, sy'n ffarmwr.

Dywedodd Mr Crabb nad yw'r prif weinidog yn "chwarae gemau gwirion o'r fath."

Wrth droi ei sylw at Fae Caerdydd dywedodd ei bod yn wirion bod Llafur wedi bod mewn llywodraeth am 17 o flynyddoedd.

"Mae hynny yn rhy hir i unrhyw un blaid," meddai.

"Rydym ni o'r farn fod angen newid ar Gymru a dyna pam y byddwn yn gweithio gydag Andrew RT Davies a sicrhau mai ef fydd Prif Weinidog Cymru ar 5 Mai."

Ychwanegodd fod y blaid gyfan wedi ymrwymo i "ymladd o dop y blaid, y prif weinidog, i'n ymgyrchwyr ar lawr gwlad i sicrhau newid yn y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd ar 5 Mai."

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Mr Cameron ddefnyddio rhan o'i araith i'r gynhadledd i ddadalu o blaid aros yn yr UE