Gwrthdrawiad Rhuddlan: Gyrrwr wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Clwb Golff y Rhuddlan bnawn dydd Gwener tua 14:00.
Aeth cerbyd oddi ar y ffordd a tharo yn erbyn y pafin.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth neu oedd wedi cynnig cymorth wedi'r digwyddiad i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod u035146.