Llaw fionig i fachgen o Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bachgen o Abertawe yw'r plentyn cyntaf yng Nghymru i dderbyn llaw fionig newydd.
Fe gollodd Alan, o Gasllwchwr, ei ddwy law yn dilyn cymhlethdodau wedi iddo gael ei heintio.
Llwyddodd ei fam, Hannah Jones, 32 oed, i godi £30,000 mewn wyth mis er mwyn iddo dderbyn llaw 'i-limb' fionig.
Dywedodd: "Mae wedi gwneud gwahaniaeth anferth i'w fywyd - mae'n fwy hyderus."
Bu'n rhaid i Alan dderbyn bron i 40 o lawdriniaethau pan oedd yn llai o achos nam ar ei galon, ond bu'n rhaid torri ei ddwy law i ffwrdd er mwyn achub ei fywyd yn dilyn haint.
Y llynedd fe ddeallodd Ms Jones bod modd i Alan dderbyn y llaw fionig yn yr Alban, ac fe ymdrechodd i godi arian.
"Mae modd iddo ysgrifennu gydag un llaw, bwyta gyda chyllell a fforc, a mynd ar feic, sy'n rhywbeth y mae wedi bod eisiau ei wneud erioed," meddai Ms Jones.
"Does dim modd i mi ddiolch digon i bawb sydd wedi ein helpu - rwy'n falch o weld fod hyn wedi ei wneud mor hapus. Mae wedi bod yn hir ag anodd ond fe gyrhaeddon ni yno."
Dywed mam Alan ei bod yn gobeithio y bydd yn gallu gwireddu ei freuddwyd o fod yn athro anghenion arbennig, ac yn bennaeth ar ysgol, efallai, un dydd.
Mae hi'n gobeithio codi digon o arian iddo gael ail law fionig, fyddai'n gallu cael ei gosod pan fydd yn 12 oed.
- Mae hanes Alan i'w weld ar raglen'The Boy with No Hands', ar BBC One Wales, ddydd Llun Mawrth 14 am 20:30