Andrew RT Davies: 'Dim sicrwydd' i adrannau heblaw iechyd

  • Cyhoeddwyd
ARTD
Disgrifiad o’r llun,
Andrew RT Davies yn areithio yn y gynhadledd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad oes sicrwydd y byddai ei blaid yn amddiffyn unrhyw adran o lywodraeth heblaw am y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai gwariant ar iechyd yn cael ei amdddiffyn os bydd y blaid yn ennill etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Ond wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llangollen, dywedodd na fyddai'n gallu rhoi'r un sicrwydd i gyllidebau eraill.

Ychwanegodd bod y Torïaid am weld arian yn mynd i wasanaethau llinell flaen. O dan y drefn sydd yn gosod ei chyllideb, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn mwy o arian yn dilyn addewid llywodraeth y DU i wario mwy ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Dywedodd Mr Davies y byddai'r arian ychwanegol yma'n mynd i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, petai'r Ceidwadwyr mewn grym.

"Ond fe fyddai'n anghywir i mi ddweud ar hyn o bryd y byddwn yn gallu gwarantu x, y neu z heblaw am y gyllideb ar gyfer iechyd, achos yn y pen draw rydym yn gwybod bod llywodraeth San Steffan wedi amddiffyn y gyllideb iechyd yn Lloegr gydag £8bn ychwanegol yn mynd iddo, felly bydd effaith uniongyrchol yn dod drosodd o'r gyllideb honno," meddai Mr Davies.

"Ac fe allwn warantu bod y bron i £500m y byddwn yn ei dderbyn dros bum mlynedd y Cynulliad yn mynd i wasanaeth iechyd Cymru. Ni fydd yr unig blaid i wneud hynny."

Dywedodd Mr Davies y byddai'r gyllideb addysg "yn gweld mwy o arian yn cael ei ryddhau" o dan y Ceidwadwyr trwy arianu ysgolion yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru, yn hytrach na drwy awdurdodau lleol.

"Byddwn yn sicrhau y bydd yr arian yn cyrraedd yr ystafelloedd dosbarth, yn hytrach na'n aros yn neuaddau'r sir ac mewn biwrocratiaeth ganolog."