Bournemouth 3-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roedd Abertawe'n anlwcus i golli oddi cartref yn erbyn Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.
Wedi i Max Gradel roi'r tîm cartref ar y blaen ar ôl 37 munud, fe darodd yr Elyrch yn ôl ddau funud yn ddiweddarach gyda gôl gan Modou Barrow.
Llwyddodd Bournemouth i ymestyn eu mantais bum munud wedi dechrau'r ail hanner gyda gôl gan Joshua King, ond unwaith eto fe ddaeth y sgor yn gyfartal - Gylfi Sigurdsson yn rhwydo'r tro hwn wedi 62 o funudau.
Llwyddodd Bournemouth i sicrhau buddugoliaeth gyda Steve Cook yn sgorio'r gôl dyngedfenol wedi 78 o funudau, ac fe fydd carfan Francesco Guidolin, oedd ddim yn y gêm o achos ei fod yn gwella o salwch, yn dychwelyd yn siomedig i Abertawe nos Sadwrn.