Caerdydd 1-0 Ipswich

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Caerdydd i gadw eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail-gyfle'n fyw yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth dros Ipswich - sydd hefyd yn gobeithio sicrhau lle yn y chwe safle uchaf.

Er nad oedd dim yn gwahanu'r ddau dîm yn yr hanner cyntaf, yr Adar Gleision aeth ar y blaen gyda pheniad gan Bruno Ecuele Manga.

Ac er bod cyfleoedd i Gaerdydd ag Ipswich yn yr ail hanner, fe lwyddodd Caerdydd i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y pen draw.

Mae'r Adar Gleision yn aros yn y seithfed safle, er i hon fod yn drydedd fuddugoliaeth allan o'r pedair gêm ddiwethaf i dîm y brifddinas.