BBC Cymru Fyw

Wrecsam 1-0 Boreham Wood

Published
image copyrightGetty Images
Fe roddodd Wrecsam hwb i'w gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle gyda'u pedwaredd fuddugoliaeth mewn pum gêm ddydd Sadwrn, gan guro Boreham Wood 1-0.
Sgoriodd Connor Jennings gic o'r smotyn i roi Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn y gêm, wedi i Scott Doe droseddu'n erbyn Kayden Jackson.
Does neb wedi curo Wrecsam yn eu wyth gêm ddiwethaf, ac fe fydd eu rheolwr Gary Mills yn fodlon gyda'r perfformiad ar y Cae Ras.