Chwe Gwlad: Lloegr 25-21 Cymru

  • Cyhoeddwyd
LloegrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Maro Itoje oedd seren y gêm

Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham bnawn dydd Sadwrn, a hynny o 25-21.

Roedd Lloegr wedi rheoli'r chwarae am gyfnodau hir o'r hanner cyntaf, ac erbyn hanner amser roedd hi'n ymddangos fod y gêm ar ben i ddynion Warren Gatland.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Saeson wedi cipio'r Goron Driphlyg am eleni.

Daeth unig gais yr hanner cyntaf gan Anthony Watson i Loegr, ond ar ôl yr egwyl fe lwyddodd Dan Biggar i groesi'r llinell gais a chodi ysbryd y Cymry.

Wedi'r hanner cyntaf o chwarae di-nod gan Gymru, fe ddaeth y crysau cochion o hyd i fflach o egni, ac fe ddaeth y gêm yn ôl yn fyw i'r cefnogwyr oedd wedi teithio dros Bont Hafren, a bu'n rhaid i gefnogwyr Lloegr ddioddef munudau olaf pryderus.

Gydag wyth munud yn unig ar ôl, roedd Lloegr 25-7 ar y blaen, ond fe ddaeth dau gais hwyr gan George North a Taulupe Faletau a gobaith i Gymru. Ond er yr ymdrech, roedd y cloc yn drech na'r cochion, a Lloegr oedd yn fuddugol.

Lloegr 25 (Ceisiadau: Watson; Trosiad: Farrell; Ciciau cosb: Farrell 6)

Cymru 21 (Ceisiadau: Biggar, North, Faletau; Trosiad: Biggar, Preistland 2)

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.