Yn yr un cwch
- Cyhoeddwyd

"Fel gŵr a gwraig" a "The Odd Couple" yw disgrifiadau'r comedïwr Dilwyn Morgan a'r actor John Pierce Jones o'u perthynas gyda'i gilydd wrth i'r ddau gychwyn ar fordaith arall mewn cyfres newydd o Codi Hwyl.
Y tro yma maen nhw'n hwylio ar hyd arfordir gorllewin Iwerddon ac mae ganddyn nhw gwch newydd moethus. Hon yw eu pumed cyfres ac maen nhw'n paratoi ar gyfer taith arall i Lydaw yn 2016.
Bu Cymru Fyw yn holi'r ddau ar wahân i weld pa mor dymhestlog mae hi'n gallu mynd ar y cwch:
P'run ydi'r daith orau ydych chi wedi ei gwneud mewn cwch efo'ch gilydd?
Dilwyn: Yr un dwi 'di fwynhau fwya' ydy'r daith adra ar ddiwedd y gyfres yma - o Roundstone yn ôl i Gaerdydd. Roedd 'na lot o gomedau a sêr o gwmpas - roedd 'na ryw achlysur gofodol ac mi fues i'n ddigon lwcus i weld rheiny a dolffiniaid yn nofio o'n cwmpas. Roedd o'n anhygoel o deimlad a'r tywydd yn fendigedig.
John: Yr un ora', dim dwywaith amdani, er nad ydan ni'n gweld fawr ddim arni ar y gyfres yma, ydy mynd o Roundstone ar benrhyn Connemara yn ôl i Gaerdydd ar ôl gorffan y gyfres yma.
Roedd y gwynt yn y lle iawn, danion ni ddim mo'r injan bron o Gonnemara yr holl ffordd i Gaerdydd, roeddan ni'n mynd yn ofnadwy o ffast, dim ond eistedd nôl a gadael i'r gwch fynd â dyna ni, ac mi welson forfilod yn ochra Sir Benfro.
Pwy sy'n gwneud y baned orau?
Dilwyn: Wel dwi ddim yn gwybod achos mewn pum cyfres 'di John erioed wedi gwneud paned. Dwi'm yn siŵr pam. Ai cyfrwys ydi o am ei fod yn gwybod mod i'n mynd i 'neud?
Neu oes ganddo fo ofn mynd yn sâl wrth fynd lawr i'r gwaelod? Mae hi yn mynd yn boeth yno a phob dim yn siglo. Ond dydi o ddim yn cîn i 'neud dim byd o ran yr ochr porthiant.
John: Wel Dilwyn. Fo sy'n g'neud bob dim. Dwi'm 'di gneud dim un banad iddo fo, a dwi ddim yn bwriadu gneud.
Pwy ydi'r gorau mewn 'creisus'?
Dilwyn: Creisus Mistar Picton?! Mae'n dibynnu be ydi'r creisus, os 'di'r creisus rwbath i 'neud efo bwyd a bwyta, John. Os oes 'na greisus bwyd, yn enwedig os ydan ni ar y lan, ffeindith John le i fyta a gwneud yn siŵr ei fod o'n cael bwyd.
O ran yr hwylio ac ar y môr - fi faswn i'n feddwl. Be ma' John 'di ddeud?
John: Dilwyn. Gweiddi a rhegi ydw i mewn creisus a cholli pob synnwyr cyffredin. Dilwyn - distaw, profiadol, dibynadwy ac yn gallu anwybyddu lobyn fatha fi, sy'n beth da.
Pwy sy'n mynd fwya' blin?
John: Fi. Er, mae Dilwyn yn medru troi tu min ond rhaid iddo fo fynd i'r pen. Ond pan mae o'n troi tu min mae'n rhaid i chi wrando. Mae hi'n seriws.
Dilwyn: Does dim eisiau i mi ateb honne nagoes? Ond di o'm yn fi.
Un o nghryfderau i ydy fod gen i amynedd Jôb. Er mod i'n cael fy ngwthio'n agos iawn weithia'.
Wrth gwrs actor ydi John, ac er bod ni 'di byw efo'n gilydd mwy nag ambell i gwpl priod erbyn hyn siŵr braidd, fedrai ddim dweud weithie lle mae'r ffin rhwng actio a'r John Pierce Jones go iawn.
Pa rinweddau mae'r ddau ohonoch yn eu cyfrannu i'ch teithiau?
Dilwyn: Dwi'n gwneud yr hwylio, dwi'n gwneud y bwyd, dwi'n gwneud y coffi, dwi'n gwneud y glanhau, ac mae John yn... be mae o'n 'neud dwch?
Mae John yn gwmnïwr difyr a'r ffaith mod i wedi ei weld o'n datblygu o fod yn medru gwneud dim byd - doedd o ddim hyd yn oed yn gallu rhoi ei wellingtons ymlaen yn y gyfres gynta'. Ond erbyn hyn mae ganddo fo wir ddiddordeb ac mae o wedi dod i ddallt llanw a sut i iwsio'r iPad a phethe felly.
John: Dwi'm ym gwbod fod gen i fawr a deud y gwir - heblaw dod â'r cwch. A bwyd.
Mae o'n dod â sgiliau morwrol a dwi'n dod â sgiliau diddanu. Dwi mewn sefyllfa wan a deud y gwir - fedrwn i ddim gwneud heb Dilwyn, ond mi fedrai Dilwyn wneud hebdda i.
Pryd gorau ar eich teithiau?
Dilwyn: Os ydi'r tywydd yn braf a bo fi mewn hwyliau go lew mi wnâi bryd iawn iddo. Dwi 'di gwneud cig oen o ynysoedd y Blasket a tatws a moron a grefi iddo fo.
Mae rhywbeth syml ar y môr, hyd yn oed paned o de, yn well oherwydd mae o'n fwy o drafferth i'w wneud. Mae panad wedi ei gneud mewn storm yn blasu'n arbennig.
Mae John yn fytwr harti iawn - os nag ydi hi'n ryff ofnadwy. Yn ystod y gyfres yma mae 'na ambell i achlysur lle 'di o ddim isio fawr o fwyd ac mae ei ben mewn bwced - rhywbeth i chi edrych ymlaen ato!
John: Mae Dilwyn yn un da iawn am 'neud ryw fwffe blasus amser cinio - ryw gawsiau a hyn a llall.
Rhaid i mi gyfadde wrth fynd i lawr i'r caban mae'r hen stumog yn dechre troi. Ond mi fedar Dilwyn Morgan fynd lawr yn y tywydd mawr a gwneud pryd o fwyd.
Be sy'n gwneud i rywun wirioni ar hwylio?
Dilwyn: I mi, be sy'n dda am hwylio ydy bod lot o broblemau yn cael eu lluchio atoch chi, boed yn dywydd, rhywbeth yn torri, John isio bwyd, John yn sâl...
Y ffaith eich bod yn gorfod dygymod â'r problemau hynny a dod allan pen arall. Dyna dwi'n ei fwynhau am hwylio. Y teimlad o wynebu gwahanol bethau wrth fynd o A i B a'r pleser o gyrraedd pen y daith a'r teimlad o gyflawni rhywbeth.
John: Be dwi'n fwynhau fwy na dim ydy plotio cwrs a gofalu lle mae'r llanw ac yn y blaen.
Mae Dilwyn Morgan, nymbar wan, yn neud o ar ei femrwn, ei charts a phetha felna ond mi fydda i'n fwynhau ei wneud ar fy nghyfrifiadur.
Mae'r llonyddwch dwi'n gael allan ar y môr pan mae bob dim yn mynd yn iawn yn fendigedig a 'dach chi'n cael y cynnwrf o lanio mewn porthladd dieithr wedi gwneud 200 o filltiroedd a gweld arfordiroedd a gwledydd o ongl hollol wahanol.
Mae cyfres newydd o Codi Hwyl yn dechrau ar S4C nos Sul, 13 Mawrth am 20:30.