Dyfodol elusen i gyn-filwyr yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae elusen Gymreig i gyn-filwyr, gafodd nawdd o bron i £1m dair blynedd yn ôl, wedi dweud nad oes ganddyn nhw arian yn weddill.
Dywedodd elusen Newid Cam, sydd wedi ei sefydlu ym Mae Colwyn, y byddai 29 o weithwyr yn colli eu gwaith wedi i gais yr elusen am fwy o arian fod yn aflwyddianus.
Mae'r elusen yn dweud ei bod yn "benderfynol o barhau" gyda'u gwaith.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn, oedd wedi darparu £995,918 i'r elusen yn 2013, y byddai Newid Cam yn gallu gwneud cais am arian ychwanegol yn y "misoedd a'r blynyddoedd nesaf".
Mae tua 1000 o gyn-filwyr a'u teuluoedd wedi derbyn cymorth gan dîm mentora'r elusen, gan gynnig cyngor ar faterion yn ymwneud ac iechyd meddwl, unigedd, lles neu broblemau alcohol a chyffuriau.
Roedd Nikki Hester, o Gwmbrân, Torfaen, wedi gwasanaethu yn rhyfel cyntaf y Gwlff yn 1991 ac mae'n dioddef o gyflwr PTSD.
Dywedodd: "Fyddwn i ddim yma nawr heblaw amdanyn nhw. Dwi'n poeni'n fawr.
'Gwahaniaeth enfawr'
"Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i wybod bod y tîm mentora wedi bod drwy'r un profiadau a fi. Rwy'n teimlo mor dda ar ôl iddyn nhw ymweld â mi.
"Dyma'r unig elusen yng Nghymru sy'n gwneud y math yma o waith. Fe fyddai'n golled fawr i Gymru mewn cymaint o ffyrdd."
Dywedodd cyfarwyddwr Newid Cam, Geraint Jones, bod yr elusen yn siarad gyda'i phartneriaid am y dyfodol.
"Cafodd y cynllun ei arianu'n wreiddiol gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, oedd yn rhannu'r arian gafodd ei gasglu o'r dirwyon a roddwyd i'r banciau yn y DU," meddai.
"Mae'r arian hwnnw wedi dod i ben ag er i ni weithio'n galed, dydyn ni heb lwyddo i sicrhau'r arian ychwanegol sydd ei angen er mwyn i ni barhau gyda'n gwaith ar ei ffurf bresennol.
"Rydym yn benderfynol o barhau un ffordd neu gilydd ac rydym wedi rhyfeddu at y gefnogaeth a'r ewyllys da sydd wedi ei ddangos gan ein ffrindiau a'n cydweithwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd yn gallu trafod achosion unigol, ond ychwanegodd: "Mae penderfyniadau am grantiau yn cael eu gwneud gan banel cenedlaethol a bydd cyfle arall i wneud cais am arian yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod."