Seiclo: Llwyddiant i Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd

Geraint Thomas (yn y melyn) gyda aelodau eraill tîm Sky
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi cael buddugoliaeth nodedig wedi iddo ennill ras y Paris-Nice ddydd Sul.
Roedd Thomas yn gwisgo'r crys melyn dros nos, ac fe lwyddodd i sicrhau buddugoliaeth wedi iddo ddal gafael yn yr eiliadau o wahaniaeth oedd rhyngddo ac Alberto Contador.
Thomas yw'r Cymro cyntaf erioed i ennill y ras enwog yma, a dim ond y trydydd Prydeiniwr erioed i wneud hynny, ar ôl Tom Simpson (1967) a Bradley Wiggins (2012).
Cafodd ras y Paris-Nice ei chynnal am y tro cyntaf yn 1933 a fyth ers hynny mae'r ras, sydd yn cael ei hadnabod fel 'y ras i'r haul', yn cael ei chydnabod fel un eiconig.
Mae rhai o fawrion y gamp wedi curo'r ras yn y gorffennol, gan gynnwys Jacques Anquetil, Eddy Merckx, Miguel Indurain ac Alberto Contador.