BBC Cymru Fyw

Pwerdy Didcot: 'Protest' teuluoedd

Published
image captionProtest heddychlon y teuluoedd ddydd Sul
Mae teuluoedd tri gweithiwr sydd ar goll, yn cynnwys dyn o Abertawe, wedi i bwerdy Didcot ddymchwel wedi cynnal "protest heddychlon" ar y safle brynhawn dydd Sul.
Mae dau o'r tri theulu wedi beirniadu'r ymdrech i ddod o hyd i'r dynion gan ddweud fod y gwaith yn rhy araf.
Bu farw un person ac anafwyd pum person arall wedi i hanner y pwerdy ddymchwel ar 23 Chwefror.
Dywed yr heddlu a'r Gweithgor Diogelwch bod dod o hyd i'r dynion sydd ar goll yn "flaenoriaeth".
Mae Christopher Huxtable, 34 oed, o Abertawe, Ken Cresswell, 57 oed, a John Shaw, 61 oed, ill dau o Rotherham, yn dal ar goll o dan weddillion y pwerdy.
Dywedodd Jade Ali, partner Mr Huxtable, ei bod yn parhau i fod "yn y tywyllwch" am yr ymdrech i ddod o hyd iddo.
Fe wnaeth hi drefnu deiseb arlein i geisio dod o hyd i'r dynion, ac mae 15,000 o bobl wedi ei lofnodi hyd yn hyn.
image copyrightJade Ali
image captionJade Ali gyda'i phartner Christopher Huxtable o Abertawe
image captionGweddillion rhan o'r pwerdy wedi iddo ddymchwel ar 23 Chwefror