Iechyd Amgylchedd: Pryder effaith toriadau
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru wedi codi pryderon difrifol am effaith toriadau gan gynghorau ar draws Cymru ar iechyd amgylcheddol.
Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd yn gyfrifol am arolygu safonau a diogelwch bwytai, trwyddedu, rheoli cŵn a llu o wasanaethau eraill.
Mewn llythyr at Gyngor Sir Penfro, sydd wedi dod i sylw rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, mae Julie Barratt yn rhybuddio y gallai toriadau gan y cyngor hwnnw i gyllideb iechyd yr amgylchedd fod yn "drychinebus".
Mae hi'n dweud bod cynghorau yn colli swyddogion iechyd amgylcheddol profiadol a gwybodus wrth i gyllidebau gael eu torri ar draws Cymru.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi amddiffyn yr arian i gynghorau yn ystod cyfnod y Cynulliad presennol.
Yn ei llythyr, mae Julie Barratt yn dweud y gallai'r toriadau yn Sir Benfro o £300,000 i gyllideb o £1.9m "fygwth iechyd a lles aelodau mwyaf bregus y gymdeithas."
'Llai a llai o arian'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd y Cynghorydd Huw George, yr aelod cabinet sydd yn gyfrifol am wasanaethau Amgylcheddol, bod "mwy a mwy" o gyfrifoldebau statudol i gynghorau ond gyda "llai a llai" o arian o Gaerdydd.
Dywedodd Mr George: "Os byddwn ni'n parhau i dorri, mae yna beryg.
"Mae'r staff sydd gyda ni yn gweithio yn galed iawn. Ni'n gorfod meddwl mewn ffyrdd gwahanol sut i weithredu.
"Mae mwy o gyfrifoldebau yn dod gyda llai o arian... mi fyddwn ni yn gofyn os ydych chi yn cyflwyno deddf newydd, yna rhowch yr arian i fynd gyda'r ddeddf."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi amddiffyn yr arian i gynghorau yn ystod cyfnod y Cynulliad presennol.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae gwariant wedi cynyddu 2.5% yng Nghymru - i gymharu â thoriad 10% yn Lloegr mewn termau arian parod.
"Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw gwneud penderfyniadau ar sut i ddefnyddio'r arian sydd yn dod o Gaerdydd ynghyd ag arian sydd yn cael ei godi yn lleol."