Prifysgol yn agor canolfan newydd i'r celfyddydau
- Cyhoeddwyd

Mae cartref newydd i'r celfyddydau wedi ei agor gan brifysgol Abertawe ar gost o £32 miliwn.
Mae'r Neuadd Fawr yn rhan ehangach o gynllun £450 miliwn Campws Bae Abertawe, ac mae'n cynnwys theatrau darlithio ac awditoriwm gyda lle i 700.
Bydd o hefyd yn cynnwys bar caffi ar y balconi yn edrych allan dros Fae Abertawe.
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, uwch ddirprwy Is-ganghellor y brifysgol, fod yr adeilad o'r safon uchaf posib ac yn cynnig adnoddau gwych o ran cynnal cynadleddau.
Yn ôl llefarydd: "Mae'r Neuadd wedi'i lleoli yng nghanol Campws y Bae a bydd yn ofod gwych i'r Brifysgol gynnal cyngherddau cerddorol, cynadleddau a seremonïau graddio a digwyddiadau mawr eraill. Bydd ar gael i staff, myfyrwyr a'r gymuned ei mwynhau."
Fideo yn dangos y gwaith adeiladu