Iaith ddoniol ydy'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Stand yp

Bydd rhai o gomedïwyr stand-yp doniolaf yr iath Gymraeg yn dod a'u taith genedlaethol i ben ar 23 Ebrill gyda pherfformiad yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ymhlith y perfformwyr mae Dan THomas, un o drefnwyr y daith.

Mae'n sôn wrth Cymru Fyw sut y mae'r sîn gomedi Gymraeg wedi datblygu ers iddo fe ddechrau dweud jôcs yn y Gymraeg ddeng mlynedd yn ôl:

Cynulleidfa o ddau

Pan fentrais i berfformio yn y Gymraeg am y tro cyntaf dim ond dau berson oedd yn y gynulleidfa. Dwy ferch yn eu harddegau. Naethon nhw 'werthin, ond heb ronyn o lawenydd yn y chwerthiniad. Neu unrhyw swn o gwbl.

Rwy'n amau bod ofn arnyn nhw, fel 'se'n nhw'n dechrau amau na fydden nhw byth yn cael gadael y basement di-awyrgylch.

Dyma oedd isafbwynt stand-yp yn Gymraeg (nid fy gig i yn benodol, ond y cyfnod o amgylch fy gig i).

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hyn ar y pryd, felly gymres i'n ganiataol fod pob gig Cymraeg fel hyn, felly cefnes i ar y byd stand-yp Cymraeg a chanolbwyntio ar wireddu fy mreuddwyd comedi o osgoi sick y gynulledifa nos Sadwrn yn Jongleurs, Croydon.

"Fel bod yn Y Beatles..."

Roedd stand-yp trwy gyfrwng y Gymraeg yn enfawr yn y 90au. Rwy'n 'nabod y comedïwyr oedd wrthi bryd hynny. Maen nhw'n sôn am y cyfnod gyda lot o gynhesrwydd.

Mae un yn honni bod yn gwneud stand-yp Cymraeg yn 90au fel bod yn Y Beatles (os oeddech chi'n mynd i weld sioe, roedd pedwar ohonyn nhw ac roedd un yn guaranteed o farw).

Roedd S4C yn gefnogol i stand-yp a gan fod stand-yp ar deledu roedd pobl yn heidio i'r sioeau byw ymhob rhan o'r wlad.

Disgrifiad o’r llun,
Y digrifwr Steffan Alun 'di hwn, nid un o'r Beatles

Dydy hyn ddim yn ddoniol...

Ond erbyn troad y ganrif, roedd ceidwadaeth ddiwylliannol yn dechrau llifo trwy wythiennau'r cyfryngau Cymraeg a peidiodd y darlledwyr gefnogi stand-yp.

Roedd ambell unigolyn o fewn y sefydliadau yma yn benderfynol o rwystro stand-yp Cymraeg rhag ymddangos ar deledu a radio. 'Dwi ddim yn gwybod pam. Byddai rhaid i chi ofyn iddyn nhw.

Heb ffenestr siop Radio Cymru ac S4C, dechreuodd stand-yp Cymraeg edwino, ac aeth y comedïwyr bant i fod yn gynhyrchwyr, neu ysgrifennwyr neu, mewn un achos, missing persons.

Felly, am tua wyth mlynedd, doedd braidd dim stand-yp yn y Gymraeg. Roedd yna gigs bach achlysurol wrth gwrs (fel fy hunllef â'r gynulledifa yn y basement yna), ond doedd comedïwyr ddim yn mynd i fod yn ennill y math o arian bydden nhw'n gwneud mewn gigs Saesneg (mae'n nhw'n talu lot i chwydu arnoch chi yn Croydon).

Yn sicr gallen nhw ddim defnyddio eu profiad fel stand-yps i gynnal gyrfaoedd ar deledu neu radio Cymraeg.

Mwy na Noson Lawen

Diolch byth, dros y blynyddoedd diwethaf, mae S4C wedi ail ddarganfod stand-yp. Llynedd, darlledodd S4C ddwy raglen arbennig stand-yp awr o hyd, gyda chyfres chwe rhan newydd o Gwerthu Allan ar y ffordd eleni.

Mae'n debyg bod 'na le i gomedïwyr, sydd ddim yn ffermwyr, ar sioeau adloniant Cymraeg! Felly yn sydyn, mae'n bosib cynnal gyrfa gomedi fel stand-yp sy'n cynnwys gweithio yn y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,
Dan Thomas

Y dyddiau hyn, mae llwyth o gomedïwyr ifanc a thalentog yn awyddus i ymarfer eu crefft yn y Gymraeg. Mae llawer o gomedïwyr profiadol iawn sydd wedi cofio, wrth weld bod yna gyfleoedd iddyn nhw yn y byd Cymraeg, mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf!

Ar 23 Ebrill bydd rhai o'r comedïwyr gwych yma (a fi), yn perfformio sioe fawr yn Theatr Richard Burton yn y Coleg Cerdd Drama yng Nghaerdydd. Rwy' mor excited am hyn.

Bydd y sioe yn cael ei recordio ar gyfer Gwerthu Allan, bydd e'n cael ei ddangos ar deledu, ac maen nhw hyd yn oed yn ein talu ni!

Rwy wrth fy modd perfformio stand-yp yn y Gymraeg, a dwi'n bersonol, wedi dod 'nôl mas o'r basement o'r diwedd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae cyfresi fel 'Gwerthu Allan' wedi rhoi hwb newydd i stand-yps Cymraeg fel Daniel Glyn