Blog Charlo: Bai ar y chwaraewyr, nid Gatland

  • Cyhoeddwyd
lloegrFfynhonnell y llun, Getty Images

"Pwy yw'r giwed 'ma sydd wedi dwyn crysau Cymru a cheisio (ond methu) ymddwyn fel tîm rhyngwladol?" Dyna'r cwestiwn oedd yn mynd drwy feddwl dyn ar yr egwyl yn Twickenham ar ôl deugain munud gwaethaf Cymru ers tro byd.

Roedd e mor annisgwyl i bawb ac roedd e'n annerbyniol i Warren Gatland. Mae 'na gwestiynu wedi bod o dactegau Gatland ar brydiau ond mae'r bai am y deugain munud ofnadwy yn syrthio'n sgwâr ar 'sgwyddau'r chwaraewyr.

Doedd dim awch, dim tempo, dim ymroddiad, dim dealltwriaeth a dim cywirdeb. Nid elfennau sy'n cael eu hyfforddi yw'r rhain, ond nodweddion sy'n ddisgwyliedig mewn unrhyw dîm heb sôn am dîm llwyddiannus, safonol fel Cymru.

Fe roion nhw'r gêm ar blât i Loegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bai y chwaraewyr yn hytrach na thactegau Warren Gatland oedd perfformiad yr hanner cyntaf, yn ôl Gareth Charles

Wal cywilydd Shaun

Heb ymestyn eu hunain fe gymerodd Lloegr eu cyfleoedd i adeiladu mantais brofodd yn ormod i'w grafu 'nôl er gwaetha'r gwelliant sylweddol yn yr ail hanner.

A'r rhyfeddod mwyaf o bosib yw bod tîm sy'n ymfalchïo, ac yn seilio'i holl gêm ar eu gallu amddiffynnol wedi methu 19 tacl yn yr hanner cynta' a 25 erbyn diwedd y gêm. Bydd y bildars mewn yng ngwesty'r Fro i godi estyniad i wal cywilydd Shaun Edwards!

Ond eto ar ddiwedd y gêm - mewn diweddglo anhygoel o gyffrous a heb unrhyw hawl o gwbl o ystyried y gêm yn ei chyfanrwydd - roedd Cymru o fewn trwch blewyn i ddwyn buddugoliaeth hyd yn oed mwy rhyfeddol na'r tair arall yn Twickenham o dan Gats.

Efallai bod hynny'n adlewyrchu rhywfaint ar anaeddfedrwydd tîm Lloegr a'r arwydd o'r gwaith tyfu sydd ganddyn nhw i'w wneud, ond mae hefyd yn adlewyrchiad o'r newid meddylfryd pan roedd cefnau Cymru wirioneddol yn erbyn y wal.

Roedd parodrwydd i ledu ac ymosod o bob safle ar y cae ac roedd yr hyder a'r cywirdeb yn cyd-dyfu gyda llwyddiant. Ble oedd hwn wedi bod drwy gydol y gêm?

Wel erbyn hynny roedd Lloegr yn blino ar ôl ymroi gymaint ac roedd Dan Cole yn gwbl haeddiannol yn y gell cosb. Ac fe gafodd y fainc effaith gyda Ken Owens yn belen ddinistriol a Rhys Priestland yn fygythiad creadigol ar y llinell fantais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Wnaeth Ken Owens ddigon i hawlio ei le yn y tîm ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Yr Eidal?

Digon i Gatland gnoi cil ond naïf byddai awgrymu y dylai Cymru fabwysiadu'r tactegau hyn o'r gic gyntaf oherwydd byddai amddiffyn fel un Lloegr, yn enwedig yn ardal y dacl, ddim wedi caniatáu.

Ond mae un peth mor amlwg â haul ar bost - dyw Cymru ddim yn mynd i guro'r mawrion gyda gêm unffurf, un cyflymder ac maen nhw wedi ceisio ehangu'u gêm yn ystod y bencampwriaeth, ond gyda chanlyniadau cymysg.

Mae 'na gyfle arall i geisio perffeithio yn erbyn yr Eidal yr wythnos nesa ac fe brofodd Iwerddon sut yn union mae gwneud. Cyflymder, dwysder, cywirdeb - y lleia' bydd ei angen yn erbyn y gwrthwynebwyr nesa' - goreuon y byd Seland Newydd yn yr haf.

Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.