Bysiau Padarn: Cyn berchennog yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae cyn berchennog cwmni bysiau o Wynedd wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o dwyll a chyfrifyddu anwir.
Mae John David Hulme, cyn reolwr gyfarwyddwr Bysiau Padarn yn Llanberis, wedi ei gyhuddo o wneud honiadau ffug am faint o deithwyr tocynnau rhad oedd wedi bod yn mynd ar gerbydau'r cwmni.
Mae'r ail gyhuddiad yn ymwneud â chyflwyno dogfen ffug i Gyngor Gwynedd.
Mae Mr Hulme yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cyhuddiadau
Digwyddodd y troseddau honedig rhwng Gorffennaf 2011 a diwedd Rhagfyr 2012, pan gafodd Mr Hulme ei wahardd o'i waith gyda Bysiau Padarn am fater gwahanol.
Yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC bod twyll wedi digwydd, ond bod angen i'r rheithgor benderfynu a oedd Mr Hulme yn rhan ohono.
Dywedodd yr erlyniad bod cyfanswm o £814,655.78 wedi ei hawlio drwy dwyll rhwng Gorffennaf 2011 a Mawrth 2014.
Y cyfanswm oedd wedi ei hawlio hyd at y cyfnod pan gafodd Mr Hulme ei wahardd oedd £495,857.08.
Clywodd y rheithgor bod ail ddyn, Darren Price, eisoes wedi pledio'n euog i dwyll yn ymwneud â'r cyfnod ar ôl i Mr Hulme gael ei wahardd.
Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Hulme yn gyfrifol am wneud yr honiadau ffug i'r cyngor, ac am ddogfennau ffug oedd yn cefnogi'r honiadau.
Mae Mr Hulme yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.