Iawndal o £70,000 i blentyn am ymosodiad gan gi
- Cyhoeddwyd

Mae bachgen ifanc gafodd anafiadau difrifol ar ôl i gi ymosod arno wedi cael £70,000 o iawndal.
Roedd Erfan Ali ond yn chwech oed pan ymosododd ci Rhodesian Ridgeback ei gymydog arno yn ardal Gabalfa o Gaerdydd yn 2011.
Cafodd anafiadau i'w wyneb wrth i'r ci ymosod arno tan i'r perchennog, Kevin Large, lwyddo i'w dynnu i ffwrdd.
Cafodd Large ei garcharu wedi'r digwyddiad, ond nawr mae teulu Erfan wedi cael iawndal o £70,000 gan fam Large am iddi fethu â chadw'r ffens rhwng y ddau dŷ yn ddiogel.
'Angen i bobl deimlo'n ddiogel'
Roedd rhaid i Erfan gael 170 o bwythau i'w law, ei ben-glin a'i wyneb yn dilyn yr ymosodiad.
Cafodd Large ei garcharu am bedwar mis am fethu â chadw anifail dan reolaeth, a chafodd y ci ei ddifa.
Ond daeth yr iawndal i'r teulu gan fam Large, Michele Skinner, 52, gan nad oedd hi wedi diogelu'r ffens lle ddaeth y ci at Erfan.
Dywedodd cyfreithwyr y bachgen y byddai ganddo greithiau ar ei wyneb am weddill ei fywyd, a bod yr ymosodiad wedi cael effaith seicolegol.
Dywedodd tad Erfan, Dilwar Ali: "Doedd yr achos ddim am yr arian ond am yr egwyddor.
"Mae angen i bobl deimlo'n ddiogel yn eu hardaloedd heb fod ofn ymosodiadau gan gŵn."