Cwmni cyllid i greu bron i 600 o swyddi yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni sy'n benthyca arian i brynu ceir yn creu dros 580 o swyddi newydd yn eu canolfan yng Nghaerdydd, gan fwy na dyblu'r gweithlu presennol.
Bydd MotoNovo, sy'n eiddo i fanc yn Ne Affrica, yn agor pencadlys newydd yn y Sgwâr Canolog yng nghanol y ddinas, gan symud o'u hen safle yn Llanisien.
Mae'r cwmni'n ymuno gyda banc a chwmni cyfreithiol yn yr adeilad sy'n cael ei godi'r drws nesa' i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Wrth gyhoeddi'r swyddi newydd ddydd Mawrth, dywedodd Gweinidog Economi Cymru Edwina Hart: "Mae'n rhoi hyder mawr yng Nghymru a'r hyn y gall Cymru gynnig i gwmnïau sydd eisiau tyfu eu busnesau.
"Mae'n fewnfuddsoddiad sylweddol a bydd yn codi proffil y sector hwn sy'n ffynnu ac yn ehangu'n gyflym yng Nghymru."
Mae'r lleoliad newydd yn rhan o Ardal Fenter y ddinas, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant gwerth £3 miliwn i gefnogi'r cynllun.
'Twf a buddsoddi'
Mae MotoNovo yn cyflogi 424 o staff yn barod ac wedi bod yn chwilio am swyddfeydd mwy yng Nghaerdydd ers y llynedd.
Ers dechrau 2015, maen nhw wedi cyflogi 150 o weithwyr ac maen nhw'n gobeithio creu 587 yn rhagor o swyddi dros y pum mlynedd nesa'.
Banc FirstRand, o Dde Affrica, sy'n berchen ar y cwmni, sy'n gwerthu cyllid ar gyfer prynu ceir a beiciau modur - maen nhw hefyd yn gweithio gyda channoedd o werthwyr ceir.
Cafodd MotoNovo ei sefydlu dros 40 mlynedd yn ôl dan yr enw Carlyle Finance, ac roedd yn rhan o fanc Julian Hodge, cyn cael ei werthu 10 mlynedd yn ôl. Ar y pryd roedd y cwmni'n cyflogi tua 60 o staff yng Nghaerdydd.
Trwy gyd-ddigwyddiad mae'r cyn berchnogion, banc Julian Hodge - sydd â 120 o staff - hefyd yn symud i'r adeilad naw llawr, 1 Sgwâr Canolog, ynghyd â'r cyfreithwyr Blake Morgan.
Cafodd y cwmni ei ailenwi'n MotoNovo bedair blynedd yn ôl ac, mewn arolwg gan y Sunday Times, cafodd ei ddewis yn chweched ar restr o'r 100 cwmni gorau i weithio iddyn nhw yn y DU.
Meddai prif weithredwr MotoNovo, Mark Standish: "Mae ein gwreiddiau'n ddwfn iawn yng Nghaerdydd.
"Ein prif gryfder yw'r tîm o bobl sydd gennym yn MotoNovo. Rydw i wedi arwain y busnes ers 16 mlynedd ac rydw i'n hynod falch o'r cwmni wrth imi gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer twf a buddsoddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015