Cwmni hedfan LinksAir yn mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd y cwmni hedfan fu'n gyfrifol am deithiau rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn cael eu gwneud yn fethdalwyr.
Mae disgwyl i gredydwyr LinksAir gwrdd ar 1 Ebrill i drafod y sefyllfa.
Fe wnaeth y cwmni roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau rhwng Y Fali a Maes Awyr Caerdydd wedi i'r Awdurdod Hedfan Sifil ddileu eu trwydded ddiogelwch fis Hydref y llynedd.
Bryd hynny fe ofynnodd LinksAir i gwmnïau eraill gynnal y gwasanaeth, ond fe benderfynon nhw roi'r gorau iddi'n llwyr ym mis Ionawr.
Yr wythnos ddiwetha' fe wnaeth Cymru Fyw adrodd fod rhai teithwyr yn dal i ddisgwyl am ad-daliad am deithiau rhwng Môn a Chaerdydd oedd wedi'u trefnu cyn i'r cwmni roi'r gorau iddi.
Nawr mae credydwyr LinksAir - cwmni Redmans Nicholas Butler o Sir Efrog - wedi derbyn llythyrau'n dweud bod cyfarfod wedi'i drefnu yn Driffield, Dwyrain Sir Efrog, ar ddydd Gwener 1 Ebrill.
Dywedodd Stella Flemmings, o Redmans Nicholas Butler: "Mae cyfarwyddwyr y cwmni wedi gofyn i ni eu helpu i ddirwyn y cwmni i ben a bydd yna gyfarfod credydwyr ar 1 Ebrill."
Mae'r gwasanaeth awyr rhwng gogledd a de Cymru bellach yn cael ei redeg gan gwmni Citywing.
'Siomedig iawn'
Un o'r bobl dderbyniodd lythyr bore Mercher oedd Alan Hughes, o Gaernarfon.
Roedd o yng nghanol ceisio hawlio arian yn ôl ar ôl talu £180 i hedfan rhwng Y Fali a Chaerdydd ddiwedd Chwefror. Fe benderfynodd fynd â char yn hytrach nag ailbrynu tocyn hedfan gyda'r cwmni newydd.
"Rwy'n siomedig iawn, achos mae £180 yn rhywbeth dydw i ddim eisiau ei roi i rywun arall a chael dim byd yn ôl yn ei le," meddai.
Ychwanegodd Mr Hughes fod LinksAir wedi methu ag ymateb i negeseuon e-byst ganddo, ac roedd o hefyd yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa.
Meddai: "Dydyn nhw ddim wedi dweud llawer. Dwi'n meddwl bod ganddyn nhw le i gamu i mewn ac ella talu'r pres yn ôl i unigolion sy'n ddyledus.
"Fyswn i'n meddwl bod rhywfaint o'r cyfrifoldeb yn disgyn ar eu 'ysgwydda' nhw hefyd.
"Dydw i ddim yn gwybod be' ydi sefyllfa'r cwmni, ond o brofiad, y dyn treth sy'n dod yn gynta'. Gawn ni weld be ddigwyddith, ond dydw i ddim yn ffyddiog o gael fy mhres yn ôl."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol bod rhai teithwyr oedd wedi trefnu hedfan gyda`r cwmni ddim wedi cael eu harian yn ôl wrth Links Air. Mae hyn yn anerbyniol, ac i ni`n gobeithio y bydd y cwmni sy`n gweinyddu`r broses yn ystyried y mater.
Straeon perthnasol
- 8 Mawrth 2016
- 22 Ionawr 2016